Eglwys Afon Dyfrdwy yn lansio cyfleusterau TG newydd i’r gymuned

04 Jan 2007
River Dee
Yr wythnos hon, bydd Eglwys Gymunedol Afon Dyfrdwy yn lansio ei chyfleusterau TGCh newydd i helpu i annog y gymuned gyfan i ymwneud â TGCh a gwella eu sgiliau. Drwy nawdd gan Cymunedau @Ei Gilydd, mae gan y grŵp cymunedol yn awr 12 o gyfrifiaduron, a mannau arbennig i bobl ifanc a bydd yn cynnig sesiynau dysgu taro-i-mewn i bobl yn ardal Castell y Fflint. 
 
Mae’r grant hefyd wedi ariannu dwy swydd. Bydd Gweithiwr Maes Cymunedol yn helpu i ddenu defnyddwyr newydd gyda sesiynau rhagflas creadigol i gyd-fynd â’u hanghenion, megis nosweithiau i fenywod neu glybiau brecwast i ddynion. Mae’r prosiect wedi ei fwriadu ar gyfer pobl na fyddent fel arfer yn awyddus i ddefnyddio technoleg newydd, megis pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, er mwyn mynd i’r afael â’r ‘gagendor digidol’. Bydd Mentor hefyd yn cynorthwyo pobl sydd ag anghenion sgiliau sylfaenol os yn briodol ac yn cyfeirio pobl at gyfleoedd dysgu pellach megis cyrsiau coleg.
 
Steve Harmes yw’r Gweinidog a’r Rheolwr Prosiect, ac ychwanega “Ar ôl ymgynghori gyda’r gymuned leol, gwnaethom gynllun prosiect i ysgogi’r rheini a allai elwa fwyaf o TGCh ac roeddem wrth ein bodd pan lwyddodd ein cais am arian. Mae hwn yn adnodd gwych i’n cymuned ac mae gennym lawer o syniadau cyffrous i’w rhoi ar waith”
 
Mae Cymunedau @Ei Gilydd yn dathlu ei blwyddyn gyntaf o gynorthwyo grwpiau cymunedol a sefydliadau’r sector gwirfoddol ar draws Cymru ym mis Ionawr eleni.
 
Lluniwyd y rhaglen hon gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu pobl yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf i ymwneud â thechnolegau newydd. Fe’i cydariannir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a rhaglen Amcan 1 a 2 yr Undeb Ewropeaidd ac fe’i rheolir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.
 
Mae tîm o Froceriaid Cymunedol yn gweithio gyda grwpiau lleol i greu cynlluniau prosiect a fydd yn defnyddio TGCh i feithrin sgiliau pobl ac, yn y pendraw, gwella eu bywydau a’u cymunedau. Mae’r Broceriaid yn helpu grwpiau i wneud cais i gronfa grantiau Cymunedau @Ei Gilydd.
 
Cyn belled, ymrwymwyd £81,000 i brosiectau yn Sir y Fflint, allan o gyfanswm o £3.4 miliwn i 84 o brosiectau cymunedol yng Nghymru. 
 
Mae’r Brocer Lleol, Debbie Holmes, wedi gweithio gyda phrosiectau technoleg cymunedol eraill yng Ngogledd Cymru. Mae’n esbonio, “Mae pobl yn magu hyder yn eithaf cyflym gyda TGCh. I rai, mae’n ymwneud â dysgu sut i siopa ar-lein neu gael gwell bargen wrth brynu, ac i eraill mae’n ymwneud â’u gwneud yn llai ynysig drwy’r e-bost. Gydag elfennau megis prosiectau ffotograffiaeth ddigidol neu adrodd straeon digidol, gwelwn bobl yn deall ei gilydd yn well ynghyd â gwell ysbryd cymunedol.”
 
Y DIWEDD
 
I gael rhagor o wybodaeth am Cymunedau @Ei Gilydd cysylltwch ag:
Elizabeth Hudson, Swyddog Cyfathrebu, Cymunedau @Ei Gilydd
Canolfan Cydweithredol Cymru    www.walescoop.com
E-bost elizabeth.hudson@walescoop.com      Symudol    07795 418106
 
I gael rhagor o wybodaeth am Eglwys Gymunedol Afon Dyfrdwy, cysylltwch â Steve Harmes ar 01352 762279
 
Nodiadau i Olygyddion
1 Mae’r galw am gymorth yn llawer uwch na’r disgwyl, felly mae cronfa grant Cymunedau @Ei Gilydd wedi ei hatal ar hyn o bryd, serch hynny, caiff prosiectau gofrestru eu diddordeb gyda’u brocer.
2 Ymysg y prosiectau eraill yn Sir y Fflint y mae’r ATC (Cadetiaid Hyfforddiant Awyr) sy’n defnyddio cyfrifiaduron i helpu pobl ifanc i adeiladu dynwaredwyr hedfan a Geidiau Clwyd sy’n cynnal cyfres o sialensiau adrodd straeon digidol i 200 o grwpiau Geidiau.