Cymunedau @Ei Gilydd yn Cyrraedd Carreg Filltir £6 miliwn
19 Dec 2007

Cymunedau @Ei Gilydd yn Cyrraedd Carreg Filltir £6 miliwn
Mae dros 200 o grwpiau gwirfoddol a chymunedol ledled Cymru wedi elwa o dros £6 miliwn o gyllid fel rhan o fenter cynhwysiant digidol Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cymunedau @Ei Gilydd, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, Leighton Andrews, heddiw.
Gwnaeth y Dirprwy Weinidog y cyhoeddiad mewn digwyddiad i lansio gwefan newydd Cymunedau @Ei Gilydd (www.communitiesatone.org) yn swyddogol. Sefydlwyd y wefan i gynnig cyngor a gwybodaeth i brosiectau cynhwysiant digidol a gyllidir drwy’r cynllun Cymunedau @Ei Gilydd.
Lansiwyd Cymunedau @Ei Gilydd yn Ionawr 2006 ac mae’n cael ei weinyddu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r fenter yn helpu pobl yn y cymunedau sydd dan fwyaf o anfantais yng Nghymru i agor y drws ar dechnolegau newydd, sydd yn y pen draw yn eu galluogi i gyfrannu at adfywio cymunedol drwy wella sgiliau a gwybodaeth.
Mae’r rhaglen wedi helpu i gyllido prosiectau sy’n amrywio o sefydlu gwefannau cymunedol, prosiectau adrodd straeon digidol sy’n meithrin amrywiaeth o sgiliau ac sy’n cynyddu’r ysbryd o gymuned i ystafelloedd TG cymunedol sy’n rhedeg cyrsiau ar hel achau, hanes lleol, rhifedd a llythrennedd ar gyfer yr holl gymuned.
Wrth lansio’r wefan yn Merit, prosiect a ariennir gan Cymunedau @Ei Gilydd, ar stad y Gurnos ym Merthyr Tudful, dywedodd Leighton Andrews: “Gall technolegau modern helpu i weddnewid bywydau pobl. Mae Cymunedau @Ei Gilydd yn ymwneud â chwalu’r rhwystrau cymdeithasol ac economaidd sy’n gallu atal rhai pobl rhag defnyddio technoleg.
“Rydym eisiau annog cymunedau ledled Cymru i ddod o hyd i’w hatebion eu hunain ar gyfer eu hardal – boed hynny’n adrodd hanes eu cymuned drwy ddull digidol, trefnu grwpiau ar-lein, dysgu am e-bost, creu gwefannau neu syniadau eraill sy’n gynhwysol ac sy’n gwella sgiliau a gwybodaeth.”
“Mae Merit a’i brosiect cymdogol Megabytes wedi cael dros £98,000 rhyngddynt. Mae’r naill a’r llall yn enghreifftiau gwych o’r hyn rydym eisiau ei gyflawni drwy’r fenter Cymunedau @Ei Gilydd sef annog grwpiau cymunedol a mudiadau yn y sector gwirfoddol yn yr ardaloedd sydd dan yr anfantais fwyaf yng Nghymru i ymgysylltu â thechnolegau mewn ffyrdd sy’n uniongyrchol berthnasol i fywydau pobl.”
Yn achos Merit, Mae Cymunedau @Ei Gilydd wedi gallu cyllido Gweithiwr Datblygu TGCh sy’n rheoli ac yn cefnogi rhedeg dosbarthiadau gan gynnwys ailadeiladu a chynnal a chadw cyfrifiaduron, ffotograffiaeth ddigidol a chyfleuster rhyngrwyd galw draw.
Ychwanegodd Leighton Andrews: “Drwy Cymunedau @Ei Gilydd, mae nifer fwy o bobl nawr yn rhannu eu sgiliau newydd, eu brwdfrydedd a’u hyder gydag eraill yn eu cymunedau, gan sbarduno adwaith y gellid ei theimlo yng Nghymru am flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Simon Harris, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru: “Mae nifer y prosiectau sydd wedi gwneud cais am gyllid yn anhygoel, gan ragori ar ein disgwyliadau ac mae’n adlewyrchu’r archwaeth enfawr am ddysgu am dechnolegau newydd mewn cymunedau ledled Cymru. Mae Cymunedau @Ei Gilydd wedi galluogi pobl yn ardaloedd Cymru a allai elwa fwyaf o ymgysylltu â thechnoleg, gan ddangos iddynt fanteision byd ar-lein sydd bellach ar agor iddynt.”