PC Care yn lansio ar Ddydd Sant Ffolant
16 Feb 2007

Yr wythnos hon agorodd PC Care yn Sandfields Aberafan ddrysau ei ystafelloedd cyfrifiaduron newydd. Bydd yn cynnig cyfleoedd dysgu hyblyg a gwasanaeth galw–i-mewn i ddefnyddio’r rhyngrwyd am ddim ar gyfer y gymuned ynghyd â phecyn cymorth cyflawn i annog pobl i ddefnyddio technoleg newydd yn llwyddiannus – o sut i danio cyfrifiadur, i siopa ar-lein a hyd yn oed rhwydweithio cymdeithasol.
Daw’r nawdd ar gyfer y prosiect oddi wrth Cymunedau @Ei Gilydd, sef cynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella mynediad a chyswllt gyda thechnoleg i bobl yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.
Mae’r grant wedi ariannu 4 o staff i gynorthwyo pobl i ddysgu TGCh. Bydd technegwyr cymorth wrth law i helpu pobl sy’n cael problemau cyfrifiadurol yn y ganolfan neu gartref hyd yn oed. Gall grwpiau gwirfoddol lleol hefyd ddefnyddio’r gwasanaethau hyn. Bydd un ystafell dechnoleg yn arddangos yr holl dechnolegau newydd diweddaraf megis teléffoni (neu VOIP) er mwyn i bobl gael profiad ohono.
Layton Emery yw Arweinydd y Prosiect ac mae’n gwahodd pobl i roi cynnig ar y cyfleusterau newydd, “Drwy gynnig siop un stop yn Aberafan rydym ni eisiau chwalu’r rhwystrau sy’n golygu nad yw pobl am roi cynnig ar ddefnyddio cyfrifiaduron, a’u helpu i feithrin sgiliau newydd mewn amgylchedd cyfeillgar. Gallwn hyd yn oed deilwrio’r hyfforddiant i gyd-fynd ag anghenion pobl megis sesiynau ailadeiladu cyfrifiaduron, rhywbeth y mae llawer o bobl wedi dangos diddordeb ynddo. Bydd y cyfleusterau hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i hyder pobl gyda TGCh”
Bu trefnwyr prosiect PC Care yn gweithio gyda’u brocer cymunedol lleol Matthew Lloyd i roi’r cynllun prosiect ynghyd. Meddai Matthew “Mae PC Care yn gweithio wrth galon y gymuned gan fynd i’r afael ag allgáu digidol. Drwy hyfforddi gwirfoddolwyr i ailgylchu cyfrifiaduron, cynnig cymorth ymarferol i bobl a chynllunio cynaladwyedd tymor hir, bydd PC Care yn gwirioneddol feithrin gallu’r gymuned.”
Mae cymunedau ledled Cymru yn dangos archwaeth aruthrol am dechnoleg; yn ei flwyddyn gyntaf mae cynllun Cymunedau @Ei Gilydd wedi ymrwymo £3.7 miliwn i 92 o brosiectau cymunedol yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.
Mae’r prosiectau a gynorthwyir gyda’r arian grant yn amrywio o brosiectau graddfa fawr sy’n darparu pecynnau dysgu i’r gymuned gan gyflogi mentoriaid a chymorth technegol, i brosiectau bach lle mae camerâu digidol yn helpu i ysgogi pobl a arferai gredu bod technoleg yn ddiflas.
Y DIWEDD
I gael rhagor o wybodaeth am Cymunedau @Ei Gilydd cysylltwch â:
Elizabeth Hudson, Swyddog Cyfathrebu, Cymunedau @Ei Gilydd
Canolfan Cydweithredol Cymru
www.walescoop.com
E-bost
elizabeth.hudson@walescoop.com Symudol 07795 418106
Nodiadau i Olygyddion
1. Rhagor o wybodaeth am Cymunedau @Ei Gilydd
- Mae llawer iawn o alw am gymorth drwy gronfa grant Cymunedau @Ei Gilydd, fodd bynnag, gall prosiectau gofrestru diddordeb gyda’u brocer. I ddod o hyd i’ch brocer lleol ffoniwch 029 2055 4955 neu cysylltwch â www.walescoop.com/communities@one
- Ledled Cymru, mae 11 Brocer Cymunedol yn gweithio gyda grwpiau gwirfoddol a chymunedol lleol i greu cynlluniau prosiect a fydd yn defnyddio TGCh i feithrin sgiliau pobl ac yn eu helpu i wneud cais i gronfa grant Cymunedau @Ei Gilydd.
- Lluniwyd y rhaglen gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu pobl yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf i ymwneud â thechnolegau newydd ac fe’i rheolir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Fe’i cydariannir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a rhaglen Amcan 1 a 2 yr Undeb Ewropeaidd.
- Defnyddir rhwydweithio cymdeithasol i ddisgrifio siarad gyda phobl sydd â’r un diddordebau â chi drwy wefannau fel MySpace.
- Gan siarad ar ddiwedd blwyddyn gyntaf Cymunedau @Ei Gilydd, dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Edwina Hart: “Mae Cymunedau @Ei Gilydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy helpu ein cymunedau mwyaf difreintiedig i ymwneud â thechnoleg. Mae llawer o grwpiau cymunedol yn ei chroesawu’n frwd ac yn ei defnyddio i newid eu cymunedau er gwell tra’n meithrin eu sgiliau mewn ffordd na allent fod wedi ei wneud o’r blaen.”
2. Bydd prosiect PC Care hefyd yn cynnwys:
- ystafell arddangos technoleg i roi dangosiadau o’r technolegau diweddaraf a all wella ein bywydau, o fancio ar-lein i VOIP (Protocol Rhyngrwyd Troslais). Teléffoni rhyngrwyd ydy VOIP, ac ymysg y darparwyr y mae Skype, Polycom a Cisco).
- prosiect cymorth technegol, dan ofal Technegydd Cymorth Caledwedd PC Care
- cyrsiau hyfforddiant wedi’u strwythuro o amgylch anghenion dysgwyr, gan gynnwys adnewyddu cyfrifiaduron
- cynllun cynilo ar gyfer cynnyrch TGCh wedi’i gyplysu ag undeb credyd
- bydd y gwirfoddolwyr heddiw yn dod yn arbenigwyr TGCh yfory drwy hyfforddiant
- i gael rhagor o wybodaeth am PC Care cysylltwch â Layton Emery ar 01639 894398