Radio ysbyty yn cael nawdd i hyfforddi gwirfoddolwyr
02 Mar 2007

Mae Radio BGM wedi cael nawdd oddi wrth Cymunedau @Ei Gilydd i baratoi stiwdio hyfforddi newydd yn Ysbyty’r Tywysog Philip ac i hyfforddi gwirfoddolwyr lleol mewn technoleg newydd a rhaglennu radio. Bydd y cyfranogwyr yn dilyn cwrs 10 wythnos mewn technolegau, cyfathrebu a darlledu radio er mwyn meithrin eu hyder a’u gwneud yn rhaglenwyr ac yn gyflwynwyr gwirfoddol.
Daw’r nawdd oddi wrth Cymunedau @Ei Gilydd, sef cynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella’r mynediad at dechnoleg newydd i bobl yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Nod y cynllun yw sicrhau nad yw pobl yn methu â mwynhau manteision technoleg. Fe’i cyd–ariennir drwy raglen Amcan 1 a 2 yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru ac fe’i cyflwynir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.
Bydd prosiect Radio BGM yn hyfforddi ac yn mentora 18 o bobl o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn Sir Gaerfyrddin (Felinfoel, Glanymor, Tyisha a Llwynhendy) yn ystod y flwyddyn nesaf gyda chymorth 7 o’r gwirfoddolwyr presennol. Bydd yn dechrau gyda chyflwyniad i dechnolegau newydd, yn symud ymlaen at ymgyfarwyddo gyda’r cyfarpar ac yna tuag at ddatblygu rhaglenni. Bydd y modiwlau yn cynnwys hyfforddiant mewn defnyddio Cynorthwywyr Digidol Personol (PDAs) ar gyfer technegau darlledu awyr agored, cyfweld a chasglu straeon, technegau cyfathrebu a deall cynulleidfaoedd.
parhad
Cynlluniwyd y rhaglen hyfforddiant gan arbenigwyr y cyfryngau a byddant yn helpu i’w chyflwyno ochr yn ochr â gwirfoddolwyr Radio BGM er mwyn cadw sgiliau o fewn y grŵp. Mae’r grant hefyd wedi ariannu caledwedd newydd ar gyfer y stiwdio fel y gellir cynnal yr hyfforddiant i wirfoddolwyr.
Kyrone Killick yw Cadeirydd Radio BGM. Mae’n esbonio: “Nod y prosiect yw magu hyder pobl a rhoi iddynt well sgiliau cyfathrebu. Rydym eisiau helpu pobl i gyfrannu at ein rhaglennu ac at eu cymuned, ac yn y pen draw helpu eu cyflogadwyedd. Gobeithiwn y bydd yn gam bychan tuag at adfywio ein cymuned. Mae Radio BGM hefyd yn gobeithio cynyddu ein cronfa werthfawr o wirfoddolwyr ar gyfer y radio ysbyty.”
Mae’r prosiect yn rhoi sylw i lawer o bwyntiau yn adroddiad APPLE Llanelli (Cynllun Ardal i’r bobl a’r amgylchedd lleol), lle gwelwyd bod angen am hyfforddiant ym maes TGCh a sgiliau trosglwyddadwy, ar lefel leol ac i grwpiau a gaiff eu hallgáu yn gymdeithasol.
Gweithiodd Kyrone gyda’r Brocer Cymunedau @Ei Gilydd, Marc Davies, i wneud y cais i gronfa grant Cymunedau @Ei Gilydd. Meddai Marc: “Mae Radio BGM wedi cynllunio model gwych a fydd yn helpu pobl i ymwneud â thechnoleg mewn ffordd frwdfrydig iawn ac yn cynyddu eu sgiliau a’u hyder gyda TGCh. Maent wedi cynnwys cynaladwyedd yn y cynllun hwn, felly bydd y radio ysbyty a’r gymuned yn elwa yn y tymor hir.”
Mae llawer o bobl broffesiynol y byd radio wedi dechrau ar eu gyrfa gyda radio ysbytai, gan gynnwys Leighton Jones o Swansea Sound a Richard Evans o BBC Radio Wales.
Bydd Richard yn lansio’r prosiect yn Ysbyty’r Tywysog Philip ddydd Mercher 7 Mawrth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â phrosiect Radio BGM cysylltwch â’r stiwdio ar 01554 756567 est 3139 neu e-bostio info@radiobgm.org.uk
Y DIWEDD
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag:
Elizabeth Hudson, Swyddog Cyfathrebu, Cymunedau @Ei Gilydd
Canolfan Cydweithredol Cymru www.walescoop.com
E-bost elizabeth.hudson@walescoop.com Symudol 07795 418106
Parhad (Nodiadau i Olygyddion)
Nodiadau i Olygyddion
1. Bydd prosiect newydd Radio BGM ‘Y nod yw gwella – gwella eich nodau’ yn cael ei lansio ddydd Mercher 7 am 7pm. I gael rhagor o wybodaeth am Radio BGM cysylltwch â Kyrone Killick, Cadeirydd, drwy info@radiobgm.org.uk
Gwahoddir ffotograffwyr y wasg yno.
2. Rhagor o wybodaeth am Cymunedau @Ei Gilydd
- Mae llawer iawn o alw am gymorth drwy gronfa grant Cymunedau @Ei Gilydd, fodd bynnag, gall prosiectau gofrestru diddordeb gyda’u brocer. I ddod o hyd i’ch brocer lleol ffoniwch 029 2055 4955 neu cysylltwch â www.walescoop.com/communities@one
- Ers ei lansio ym mis Ionawr 2006 mae Cymunedau @Ei Gilydd wedi ymrwymo £4.1 miliwn i 103 o brosiectau TGCh cymunedol yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ar draws Cymru.
- Ledled Cymru, mae 11 Brocer Cymunedol yn gweithio gyda grwpiau gwirfoddol a chymunedol lleol i greu cynlluniau prosiect a fydd yn defnyddio TGCh i feithrin sgiliau pobl ac yn eu helpu i wneud cais i gronfa grant Cymunedau @Ei Gilydd.
- Lluniwyd y rhaglen hon gan Gyfarwyddiaeth Gymunedol Llywodraeth Cynulliad Cymru i helpu pobl yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf i ymwneud â thechnolegau newydd. Fe’i cydariannir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a rhaglen Amcan 1 a 2 yr Undeb Ewropeaidd. Fe’i rheolir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.
- Gan siarad ar ddiwedd blwyddyn gyntaf Cymunedau @Ei Gilydd, dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Edwina Hart: “Mae Cymunedau @Ei Gilydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy helpu ein cymunedau mwyaf difreintiedig i ymwneud â thechnoleg. Mae llawer o grwpiau cymunedol yn ei chroesawu’n frwd ac yn ei defnyddio i newid eu cymunedau er gwell tra’n meithrin eu sgiliau mewn ffordd na allent fod wedi ei wneud o’r blaen.”
- Diwedd y nodiadau