Sgowtiaid Troedyrhiw yn cael cyfrifiaduron newydd

12 Mar 2007
Sgowtiaid yn derbyn ei bathodyn  ymwybyddiaeth TG ac yn ymar Dathlodd Sgowtiaid Troedyrhiw eu llwyddiant gyda’u cyfrifiaduron newydd wrth i 19 o Sgowtiaid gael Gwobrau Technoleg Gwybodaeth yr wythnos diwethaf. Dros y ddeufis diwethaf, mae’r sgowtiaid wedi defnyddio’r cyfrifiaduron a’r meddalwedd newydd i gwblhau amrywiol dasgau ar–lein er mwyn ennill y gwobrau hyn.

Daeth y nawdd ar gyfer y cyfarpar TG drwy grant £3664 oddi wrth Cymunedau @Ei Gilydd, sef cynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu pobl yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf i gael mynediad at dechnoleg newydd a chynyddu eu sgiliau. Cydariannir y prosiect gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a rhaglen Amcan 1 a 2 yr Undeb Ewropeaidd. Canolfan Cydweithredol Cymru sy’n rhedeg Cymunedau @Ei Gilydd.

Bydd grwpiau eraill sy’n defnyddio’r ganolfan hefyd yn gallu defnyddio’r cyfleusterau hyn, gan gynnwys grwpiau Sgowtiaid eraill o bob cwr o Ferthyr, Geidiau, Brownis, Yr Ysgol Gerdd a Cefnogaeth Gartref. Bydd hefyd yn hwyluso mynediad at dechnoleg newydd i Sgowtiaid sydd ag anableddau.

Meddai Ken Long, Comisiynydd Dosbarth dros Ferthyr: “Ni fyddai’r prosiect wedi bod yn bosib heb y grant a’r cymorth gan Cymunedau @Ei Gilydd. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd ein cyfleusterau newydd yn helpu i gynyddu’r aelodaeth ymysg y bechgyn.”
Y Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth am Sgowtiaid Troedyrhiw cysylltwch â:
Ken Long
01443 692785 / 0777 3334904

I gael rhagor o wybodaeth am Cymunedau @Ei Gilydd cysylltwch ag:
Elizabeth Hudson
029 2055 6956 / 07795 418106

Mae ffotograffau ar gael ar gyfer y wasg, cysylltwch â Ken neu Elizabeth:
Sgowtiaid gyda bathodynnau eu gwobr TG.
Brocer Cymunedau @Ei Gilydd dros Ferthyr Tudful, Stephanie Bond, gyda’r Sgowtiaid a’u cyfrifiaduron newydd yn edrych ar feddalwedd Arolwg Ordanance.