http://www.cymunedauateigilydd.orgWales Co-operative CentreCymunedau @Ei Gilydd yn Cyrraedd Carreg Filltir £6 miliwnCymunedau @Ei Gilydd yn Cyrraedd Carreg Filltir £6 miliwn

Mae dros 200 o grwpiau gwirfoddol a chymunedol ledled Cymru wedi elwa o dros £6 miliwn o gyllid fel rhan o fenter cynhwysiant digidol Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cymunedau @Ei Gilydd, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, Leighton Andrews, heddiw.

Gwnaeth y Dirprwy Weinidog y cyhoeddiad mewn digwyddiad i lansio gwefan newydd Cymunedau @Ei Gilydd (www.communitiesatone.org) yn swyddogol. Sefydlwyd y wefan i gynnig cyngor a gwybodaeth i brosiectau cynhwysiant digidol a gyllidir drwy’r cynllun Cymunedau @Ei Gilydd.

Lansiwyd Cymunedau @Ei Gilydd yn Ionawr 2006 ac mae’n cael ei weinyddu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r fenter yn helpu pobl yn y cymunedau sydd dan fwyaf o anfantais yng Nghymru i agor y drws ar dechnolegau newydd, sydd yn y pen draw yn eu galluogi i gyfrannu at adfywio cymunedol drwy wella sgiliau a gwybodaeth.

Mae’r rhaglen wedi helpu i gyllido prosiectau sy’n amrywio o sefydlu gwefannau cymunedol, prosiectau adrodd straeon digidol sy’n meithrin amrywiaeth o sgiliau ac sy’n cynyddu’r ysbryd o gymuned i ystafelloedd TG cymunedol sy’n rhedeg cyrsiau ar hel achau, hanes lleol, rhifedd a llythrennedd ar gyfer yr holl gymuned.

Wrth lansio’r wefan yn Merit, prosiect a ariennir gan Cymunedau @Ei Gilydd, ar stad y Gurnos ym Merthyr Tudful, dywedodd Leighton Andrews: “Gall technolegau modern helpu i weddnewid bywydau pobl. Mae Cymunedau @Ei Gilydd yn ymwneud â chwalu’r rhwystrau cymdeithasol ac economaidd sy’n gallu atal rhai pobl rhag defnyddio technoleg.

“Rydym eisiau annog cymunedau ledled Cymru i ddod o hyd i’w hatebion eu hunain ar gyfer eu hardal – boed hynny’n adrodd hanes eu cymuned drwy ddull digidol, trefnu grwpiau ar-lein, dysgu am e-bost, creu gwefannau neu syniadau eraill sy’n gynhwysol ac sy’n gwella sgiliau a gwybodaeth.”

“Mae Merit a’i brosiect cymdogol Megabytes wedi cael dros £98,000 rhyngddynt. Mae’r naill a’r llall yn enghreifftiau gwych o’r hyn rydym eisiau ei gyflawni drwy’r fenter Cymunedau @Ei Gilydd sef annog grwpiau cymunedol a mudiadau yn y sector gwirfoddol yn yr ardaloedd sydd dan yr anfantais fwyaf yng Nghymru i ymgysylltu â thechnolegau mewn ffyrdd sy’n uniongyrchol berthnasol i fywydau pobl.”

Yn achos Merit, Mae Cymunedau @Ei Gilydd wedi gallu cyllido Gweithiwr Datblygu TGCh sy’n rheoli ac yn cefnogi rhedeg dosbarthiadau gan gynnwys ailadeiladu a chynnal a chadw cyfrifiaduron, ffotograffiaeth ddigidol a chyfleuster rhyngrwyd galw draw.

Ychwanegodd Leighton Andrews: “Drwy Cymunedau @Ei Gilydd, mae nifer fwy o bobl nawr yn rhannu eu sgiliau newydd, eu brwdfrydedd a’u hyder gydag eraill yn eu cymunedau, gan sbarduno adwaith y gellid ei theimlo yng Nghymru am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Simon Harris, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru: “Mae nifer y prosiectau sydd wedi gwneud cais am gyllid yn anhygoel, gan ragori ar ein disgwyliadau ac mae’n adlewyrchu’r archwaeth enfawr am ddysgu am dechnolegau newydd mewn cymunedau ledled Cymru. Mae Cymunedau @Ei Gilydd wedi galluogi pobl yn ardaloedd Cymru a allai elwa fwyaf o ymgysylltu â thechnoleg, gan ddangos iddynt fanteision byd ar-lein sydd bellach ar agor iddynt.”

http://www.cymunedauateigilydd.org/archif-datganiadau-ir-wasg-a-delweddau/i/348/
2007-12-19T00:00:00-00:00Cymunedau @Ei Gilydd yn Cyrraedd Carreg Filltir £6 miliwnSgowtiaid Troedyrhiw yn cael cyfrifiaduron newyddDathlodd Sgowtiaid Troedyrhiw eu llwyddiant gyda’u cyfrifiaduron newydd wrth i 19 o Sgowtiaid gael Gwobrau Technoleg Gwybodaeth yr wythnos diwethaf. Dros y ddeufis diwethaf, mae’r sgowtiaid wedi defnyddio’r cyfrifiaduron a’r meddalwedd newydd i gwblhau amrywiol dasgau ar–lein er mwyn ennill y gwobrau hyn.

Daeth y nawdd ar gyfer y cyfarpar TG drwy grant £3664 oddi wrth Cymunedau @Ei Gilydd, sef cynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu pobl yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf i gael mynediad at dechnoleg newydd a chynyddu eu sgiliau. Cydariannir y prosiect gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a rhaglen Amcan 1 a 2 yr Undeb Ewropeaidd. Canolfan Cydweithredol Cymru sy’n rhedeg Cymunedau @Ei Gilydd.

Bydd grwpiau eraill sy’n defnyddio’r ganolfan hefyd yn gallu defnyddio’r cyfleusterau hyn, gan gynnwys grwpiau Sgowtiaid eraill o bob cwr o Ferthyr, Geidiau, Brownis, Yr Ysgol Gerdd a Cefnogaeth Gartref. Bydd hefyd yn hwyluso mynediad at dechnoleg newydd i Sgowtiaid sydd ag anableddau.

Meddai Ken Long, Comisiynydd Dosbarth dros Ferthyr: “Ni fyddai’r prosiect wedi bod yn bosib heb y grant a’r cymorth gan Cymunedau @Ei Gilydd. Rydym hefyd yn gobeithio y bydd ein cyfleusterau newydd yn helpu i gynyddu’r aelodaeth ymysg y bechgyn.”

Y Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth am Sgowtiaid Troedyrhiw cysylltwch â:

Ken Long

01443 692785 / 0777 3334904

I gael rhagor o wybodaeth am Cymunedau @Ei Gilydd cysylltwch ag:

Elizabeth Hudson

029 2055 6956 / 07795 418106

Mae ffotograffau ar gael ar gyfer y wasg, cysylltwch â Ken neu Elizabeth:

Sgowtiaid gyda bathodynnau eu gwobr TG.

Brocer Cymunedau @Ei Gilydd dros Ferthyr Tudful, Stephanie Bond, gyda’r Sgowtiaid a’u cyfrifiaduron newydd yn edrych ar feddalwedd Arolwg Ordanance.
http://www.cymunedauateigilydd.org/archif-datganiadau-ir-wasg-a-delweddau/i/49/
2007-03-12T00:00:00-00:00Radio ysbyty yn cael nawdd i hyfforddi gwirfoddolwyrMae Radio BGM wedi cael nawdd oddi wrth Cymunedau @Ei Gilydd i baratoi stiwdio hyfforddi newydd yn Ysbyty’r Tywysog Philip ac i hyfforddi gwirfoddolwyr lleol mewn technoleg newydd a rhaglennu radio. Bydd y cyfranogwyr yn dilyn cwrs 10 wythnos mewn technolegau, cyfathrebu a darlledu radio er mwyn meithrin eu hyder a’u gwneud yn rhaglenwyr ac yn gyflwynwyr gwirfoddol.

Daw’r nawdd oddi wrth Cymunedau @Ei Gilydd, sef cynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella’r mynediad at dechnoleg newydd i bobl yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Nod y cynllun yw sicrhau nad yw pobl yn methu â mwynhau manteision technoleg. Fe’i cyd–ariennir drwy raglen Amcan 1 a 2 yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru ac fe’i cyflwynir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.

Bydd prosiect Radio BGM yn hyfforddi ac yn mentora 18 o bobl o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn Sir Gaerfyrddin (Felinfoel, Glanymor, Tyisha a Llwynhendy) yn ystod y flwyddyn nesaf gyda chymorth 7 o’r gwirfoddolwyr presennol. Bydd yn dechrau gyda chyflwyniad i dechnolegau newydd, yn symud ymlaen at ymgyfarwyddo gyda’r cyfarpar ac yna tuag at ddatblygu rhaglenni. Bydd y modiwlau yn cynnwys hyfforddiant mewn defnyddio Cynorthwywyr Digidol Personol (PDAs) ar gyfer technegau darlledu awyr agored, cyfweld a chasglu straeon, technegau cyfathrebu a deall cynulleidfaoedd.

parhad

Cynlluniwyd y rhaglen hyfforddiant gan arbenigwyr y cyfryngau a byddant yn helpu i’w chyflwyno ochr yn ochr â gwirfoddolwyr Radio BGM er mwyn cadw sgiliau o fewn y grŵp. Mae’r grant hefyd wedi ariannu caledwedd newydd ar gyfer y stiwdio fel y gellir cynnal yr hyfforddiant i wirfoddolwyr.

Kyrone Killick yw Cadeirydd Radio BGM. Mae’n esbonio: “Nod y prosiect yw magu hyder pobl a rhoi iddynt well sgiliau cyfathrebu. Rydym eisiau helpu pobl i gyfrannu at ein rhaglennu ac at eu cymuned, ac yn y pen draw helpu eu cyflogadwyedd. Gobeithiwn y bydd yn gam bychan tuag at adfywio ein cymuned. Mae Radio BGM hefyd yn gobeithio cynyddu ein cronfa werthfawr o wirfoddolwyr ar gyfer y radio ysbyty.”

Mae’r prosiect yn rhoi sylw i lawer o bwyntiau yn adroddiad APPLE Llanelli (Cynllun Ardal i’r bobl a’r amgylchedd lleol), lle gwelwyd bod angen am hyfforddiant ym maes TGCh a sgiliau trosglwyddadwy, ar lefel leol ac i grwpiau a gaiff eu hallgáu yn gymdeithasol.

Gweithiodd Kyrone gyda’r Brocer Cymunedau @Ei Gilydd, Marc Davies, i wneud y cais i gronfa grant Cymunedau @Ei Gilydd. Meddai Marc: “Mae Radio BGM wedi cynllunio model gwych a fydd yn helpu pobl i ymwneud â thechnoleg mewn ffordd frwdfrydig iawn ac yn cynyddu eu sgiliau a’u hyder gyda TGCh. Maent wedi cynnwys cynaladwyedd yn y cynllun hwn, felly bydd y radio ysbyty a’r gymuned yn elwa yn y tymor hir.”

Mae llawer o bobl broffesiynol y byd radio wedi dechrau ar eu gyrfa gyda radio ysbytai, gan gynnwys Leighton Jones o Swansea Sound a Richard Evans o BBC Radio Wales.

Bydd Richard yn lansio’r prosiect yn Ysbyty’r Tywysog Philip ddydd Mercher 7 Mawrth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â phrosiect Radio BGM cysylltwch â’r stiwdio ar 01554 756567 est 3139 neu e-bostio info@radiobgm.org.uk

Y DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag:

Elizabeth Hudson, Swyddog Cyfathrebu, Cymunedau @Ei Gilydd

Canolfan Cydweithredol Cymru www.walescoop.com

E-bost elizabeth.hudson@walescoop.com Symudol 07795 418106

Parhad (Nodiadau i Olygyddion)

Nodiadau i Olygyddion

1. Bydd prosiect newydd Radio BGM ‘Y nod yw gwella – gwella eich nodau’ yn cael ei lansio ddydd Mercher 7 am 7pm. I gael rhagor o wybodaeth am Radio BGM cysylltwch â Kyrone Killick, Cadeirydd, drwy info@radiobgm.org.uk

Gwahoddir ffotograffwyr y wasg yno.

2. Rhagor o wybodaeth am Cymunedau @Ei Gilydd

Mae llawer iawn o alw am gymorth drwy gronfa grant Cymunedau @Ei Gilydd, fodd bynnag, gall prosiectau gofrestru diddordeb gyda’u brocer. I ddod o hyd i’ch brocer lleol ffoniwch 029 2055 4955 neu cysylltwch â www.walescoop.com/communities@one

Ers ei lansio ym mis Ionawr 2006 mae Cymunedau @Ei Gilydd wedi ymrwymo £4.1 miliwn i 103 o brosiectau TGCh cymunedol yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ar draws Cymru.

Ledled Cymru, mae 11 Brocer Cymunedol yn gweithio gyda grwpiau gwirfoddol a chymunedol lleol i greu cynlluniau prosiect a fydd yn defnyddio TGCh i feithrin sgiliau pobl ac yn eu helpu i wneud cais i gronfa grant Cymunedau @Ei Gilydd.

Lluniwyd y rhaglen hon gan Gyfarwyddiaeth Gymunedol Llywodraeth Cynulliad Cymru i helpu pobl yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf i ymwneud â thechnolegau newydd. Fe’i cydariannir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a rhaglen Amcan 1 a 2 yr Undeb Ewropeaidd. Fe’i rheolir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.

Gan siarad ar ddiwedd blwyddyn gyntaf Cymunedau @Ei Gilydd, dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Edwina Hart: “Mae Cymunedau @Ei Gilydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy helpu ein cymunedau mwyaf difreintiedig i ymwneud â thechnoleg. Mae llawer o grwpiau cymunedol yn ei chroesawu’n frwd ac yn ei defnyddio i newid eu cymunedau er gwell tra’n meithrin eu sgiliau mewn ffordd na allent fod wedi ei wneud o’r blaen.”

- Diwedd y nodiadau
http://www.cymunedauateigilydd.org/archif-datganiadau-ir-wasg-a-delweddau/i/48/
2007-03-02T00:00:00-00:00PC Care yn lansio ar Ddydd Sant FfolantYr wythnos hon agorodd PC Care yn Sandfields Aberafan ddrysau ei ystafelloedd cyfrifiaduron newydd. Bydd yn cynnig cyfleoedd dysgu hyblyg a gwasanaeth galw–i-mewn i ddefnyddio’r rhyngrwyd am ddim ar gyfer y gymuned ynghyd â phecyn cymorth cyflawn i annog pobl i ddefnyddio technoleg newydd yn llwyddiannus – o sut i danio cyfrifiadur, i siopa ar-lein a hyd yn oed rhwydweithio cymdeithasol.

Daw’r nawdd ar gyfer y prosiect oddi wrth Cymunedau @Ei Gilydd, sef cynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella mynediad a chyswllt gyda thechnoleg i bobl yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.

Mae’r grant wedi ariannu 4 o staff i gynorthwyo pobl i ddysgu TGCh. Bydd technegwyr cymorth wrth law i helpu pobl sy’n cael problemau cyfrifiadurol yn y ganolfan neu gartref hyd yn oed. Gall grwpiau gwirfoddol lleol hefyd ddefnyddio’r gwasanaethau hyn. Bydd un ystafell dechnoleg yn arddangos yr holl dechnolegau newydd diweddaraf megis teléffoni (neu VOIP) er mwyn i bobl gael profiad ohono.

Layton Emery yw Arweinydd y Prosiect ac mae’n gwahodd pobl i roi cynnig ar y cyfleusterau newydd, “Drwy gynnig siop un stop yn Aberafan rydym ni eisiau chwalu’r rhwystrau sy’n golygu nad yw pobl am roi cynnig ar ddefnyddio cyfrifiaduron, a’u helpu i feithrin sgiliau newydd mewn amgylchedd cyfeillgar. Gallwn hyd yn oed deilwrio’r hyfforddiant i gyd-fynd ag anghenion pobl megis sesiynau ailadeiladu cyfrifiaduron, rhywbeth y mae llawer o bobl wedi dangos diddordeb ynddo. Bydd y cyfleusterau hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i hyder pobl gyda TGCh”

Bu trefnwyr prosiect PC Care yn gweithio gyda’u brocer cymunedol lleol Matthew Lloyd i roi’r cynllun prosiect ynghyd. Meddai Matthew “Mae PC Care yn gweithio wrth galon y gymuned gan fynd i’r afael ag allgáu digidol. Drwy hyfforddi gwirfoddolwyr i ailgylchu cyfrifiaduron, cynnig cymorth ymarferol i bobl a chynllunio cynaladwyedd tymor hir, bydd PC Care yn gwirioneddol feithrin gallu’r gymuned.”

Mae cymunedau ledled Cymru yn dangos archwaeth aruthrol am dechnoleg; yn ei flwyddyn gyntaf mae cynllun Cymunedau @Ei Gilydd wedi ymrwymo £3.7 miliwn i 92 o brosiectau cymunedol yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.

Mae’r prosiectau a gynorthwyir gyda’r arian grant yn amrywio o brosiectau graddfa fawr sy’n darparu pecynnau dysgu i’r gymuned gan gyflogi mentoriaid a chymorth technegol, i brosiectau bach lle mae camerâu digidol yn helpu i ysgogi pobl a arferai gredu bod technoleg yn ddiflas.

Y DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth am Cymunedau @Ei Gilydd cysylltwch â:

Elizabeth Hudson, Swyddog Cyfathrebu, Cymunedau @Ei Gilydd

Canolfan Cydweithredol Cymru www.walescoop.com

E-bost elizabeth.hudson@walescoop.com Symudol 07795 418106

Nodiadau i Olygyddion

1. Rhagor o wybodaeth am Cymunedau @Ei Gilydd

Mae llawer iawn o alw am gymorth drwy gronfa grant Cymunedau @Ei Gilydd, fodd bynnag, gall prosiectau gofrestru diddordeb gyda’u brocer. I ddod o hyd i’ch brocer lleol ffoniwch 029 2055 4955 neu cysylltwch â www.walescoop.com/communities@one

Ledled Cymru, mae 11 Brocer Cymunedol yn gweithio gyda grwpiau gwirfoddol a chymunedol lleol i greu cynlluniau prosiect a fydd yn defnyddio TGCh i feithrin sgiliau pobl ac yn eu helpu i wneud cais i gronfa grant Cymunedau @Ei Gilydd.

Lluniwyd y rhaglen gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu pobl yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf i ymwneud â thechnolegau newydd ac fe’i rheolir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Fe’i cydariannir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a rhaglen Amcan 1 a 2 yr Undeb Ewropeaidd.

Defnyddir rhwydweithio cymdeithasol i ddisgrifio siarad gyda phobl sydd â’r un diddordebau â chi drwy wefannau fel MySpace.

Gan siarad ar ddiwedd blwyddyn gyntaf Cymunedau @Ei Gilydd, dywedodd y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Edwina Hart: “Mae Cymunedau @Ei Gilydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy helpu ein cymunedau mwyaf difreintiedig i ymwneud â thechnoleg. Mae llawer o grwpiau cymunedol yn ei chroesawu’n frwd ac yn ei defnyddio i newid eu cymunedau er gwell tra’n meithrin eu sgiliau mewn ffordd na allent fod wedi ei wneud o’r blaen.”

2. Bydd prosiect PC Care hefyd yn cynnwys:

ystafell arddangos technoleg i roi dangosiadau o’r technolegau diweddaraf a all wella ein bywydau, o fancio ar-lein i VOIP (Protocol Rhyngrwyd Troslais). Teléffoni rhyngrwyd ydy VOIP, ac ymysg y darparwyr y mae Skype, Polycom a Cisco).

prosiect cymorth technegol, dan ofal Technegydd Cymorth Caledwedd PC Care

cyrsiau hyfforddiant wedi’u strwythuro o amgylch anghenion dysgwyr, gan gynnwys adnewyddu cyfrifiaduron

cynllun cynilo ar gyfer cynnyrch TGCh wedi’i gyplysu ag undeb credyd

bydd y gwirfoddolwyr heddiw yn dod yn arbenigwyr TGCh yfory drwy hyfforddiant

i gael rhagor o wybodaeth am PC Care cysylltwch â Layton Emery ar 01639 894398

http://www.cymunedauateigilydd.org/archif-datganiadau-ir-wasg-a-delweddau/i/47/
2007-02-16T00:00:00-00:00Eglwys Afon Dyfrdwy yn lansio cyfleusterau TG newydd i’r gymuned

Yr wythnos hon, bydd Eglwys Gymunedol Afon Dyfrdwy yn lansio ei chyfleusterau TGCh newydd i helpu i annog y gymuned gyfan i ymwneud â TGCh a gwella eu sgiliau. Drwy nawdd gan Cymunedau @Ei Gilydd, mae gan y grŵp cymunedol yn awr 12 o gyfrifiaduron, a mannau arbennig i bobl ifanc a bydd yn cynnig sesiynau dysgu taro-i-mewn i bobl yn ardal Castell y Fflint.

Mae’r grant hefyd wedi ariannu dwy swydd. Bydd Gweithiwr Maes Cymunedol yn helpu i ddenu defnyddwyr newydd gyda sesiynau rhagflas creadigol i gyd-fynd â’u hanghenion, megis nosweithiau i fenywod neu glybiau brecwast i ddynion. Mae’r prosiect wedi ei fwriadu ar gyfer pobl na fyddent fel arfer yn awyddus i ddefnyddio technoleg newydd, megis pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, er mwyn mynd i’r afael â’r ‘gagendor digidol’. Bydd Mentor hefyd yn cynorthwyo pobl sydd ag anghenion sgiliau sylfaenol os yn briodol ac yn cyfeirio pobl at gyfleoedd dysgu pellach megis cyrsiau coleg.

Steve Harmes yw’r Gweinidog a’r Rheolwr Prosiect, ac ychwanega “Ar ôl ymgynghori gyda’r gymuned leol, gwnaethom gynllun prosiect i ysgogi’r rheini a allai elwa fwyaf o TGCh ac roeddem wrth ein bodd pan lwyddodd ein cais am arian. Mae hwn yn adnodd gwych i’n cymuned ac mae gennym lawer o syniadau cyffrous i’w rhoi ar waith”

Mae Cymunedau @Ei Gilydd yn dathlu ei blwyddyn gyntaf o gynorthwyo grwpiau cymunedol a sefydliadau’r sector gwirfoddol ar draws Cymru ym mis Ionawr eleni.

Lluniwyd y rhaglen hon gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i helpu pobl yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf i ymwneud â thechnolegau newydd. Fe’i cydariannir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a rhaglen Amcan 1 a 2 yr Undeb Ewropeaidd ac fe’i rheolir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.

Mae tîm o Froceriaid Cymunedol yn gweithio gyda grwpiau lleol i greu cynlluniau prosiect a fydd yn defnyddio TGCh i feithrin sgiliau pobl ac, yn y pendraw, gwella eu bywydau a’u cymunedau. Mae’r Broceriaid yn helpu grwpiau i wneud cais i gronfa grantiau Cymunedau @Ei Gilydd.

Cyn belled, ymrwymwyd £81,000 i brosiectau yn Sir y Fflint, allan o gyfanswm o £3.4 miliwn i 84 o brosiectau cymunedol yng Nghymru.

Mae’r Brocer Lleol, Debbie Holmes, wedi gweithio gyda phrosiectau technoleg cymunedol eraill yng Ngogledd Cymru. Mae’n esbonio, “Mae pobl yn magu hyder yn eithaf cyflym gyda TGCh. I rai, mae’n ymwneud â dysgu sut i siopa ar-lein neu gael gwell bargen wrth brynu, ac i eraill mae’n ymwneud â’u gwneud yn llai ynysig drwy’r e-bost. Gydag elfennau megis prosiectau ffotograffiaeth ddigidol neu adrodd straeon digidol, gwelwn bobl yn deall ei gilydd yn well ynghyd â gwell ysbryd cymunedol.”

Y DIWEDD

I gael rhagor o wybodaeth am Cymunedau @Ei Gilydd cysylltwch ag:

Elizabeth Hudson, Swyddog Cyfathrebu, Cymunedau @Ei Gilydd

Canolfan Cydweithredol Cymru  www.walescoop.com

E-bost elizabeth.hudson@walescoop.com Symudol 07795 418106

I gael rhagor o wybodaeth am Eglwys Gymunedol Afon Dyfrdwy, cysylltwch â Steve Harmes ar 01352 762279

Nodiadau i Olygyddion

1 Mae’r galw am gymorth yn llawer uwch na’r disgwyl, felly mae cronfa grant Cymunedau @Ei Gilydd wedi ei hatal ar hyn o bryd, serch hynny, caiff prosiectau gofrestru eu diddordeb gyda’u brocer.

2 Ymysg y prosiectau eraill yn Sir y Fflint y mae’r ATC (Cadetiaid Hyfforddiant Awyr) sy’n defnyddio cyfrifiaduron i helpu pobl ifanc i adeiladu dynwaredwyr hedfan a Geidiau Clwyd sy’n cynnal cyfres o sialensiau adrodd straeon digidol i 200 o grwpiau Geidiau.

http://www.cymunedauateigilydd.org/archif-datganiadau-ir-wasg-a-delweddau/i/211/
2007-01-04T00:00:00-00:00