Tudalen
Blaenorol
Blaenorol
1
23Nesaf
Nesaf

Awgrymiadau TG

Cofiwch lawrlwytho cerddoriaeth yn gyfreithlon.

Ewch i’ch hoff siop gerddoriaeth, archfarchnad neu label ar-lein i brynu cerddoriaeth neu mae perygl eich bod yn torri cyfreithiau hawlfraint.
richard.james

1. Pa mor gyflym yw eich cysylltiad band eang chi? A yw mor gyflym â’r hyn sy’n cael ei hysbysebu gan eich Darparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd?

Profwch eich cysylltiad i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr hyn yr ydych yn talu amdano yn www.thinkbroadband.com/speedtest.html
catherine.padfield

Peidiwch byth ag agor negeseuon e-bost heb bynciau pennawd, na rhai sy’n dod oddi wrth bobl nad ydych yn eu hadnabod.

Efallai mai sbamwyr sy’n eu hanfon i weld a yw eich cyfeiriad e-bost yn bodoli.
catherine.padfield

Mae rhybuddion brawychus am firysau erchyll yn aml yn rhai ffug.

Edrychwch i weld a yw enw’r firws wedi’i restru yn Symantec Security Response (www.symantec.com/security_response) neu Message Labs (www.messagelabs.com/intelligence.aspx) i weld a yw’n bod ac os yw, dilynwch y cyngor a roddir.
catherine.padfield

A yw’r safle lle’r ydych yn siopa yn un diogel?

Gwnewch yn siŵr bod yr e-siop yr ydych yn ei defnyddio’n dangos y logo safle diogel a bod eicon clo clap i’w weld yng nghornel dde isaf y sgrin. Heb hwn, gallai manylion eich cerdyn credyd gael eu copïo. Hefyd, dylai safle siopa neu fancio diogel ddangos ‘https’ yn llinell y cyfeiriad (ar frig y porwr) yn hytrach na’r ‘http’ arferol pan fyddwch yn bwydo gwybodaeth ddiogel.
richard.james