Cymunedau @Ei Gilydd

Sefydlwyd Cymunedau @Ei Gilydd ym mis Ionawr 2006 fel menter arloesol a oedd yn anelu at helpu pobl i ddefnyddio technoleg yn y cymunedau sydd fwyaf ei hangen yng Nghymru. Yr oedd y prosiect yn darparu cefnogaeth i grwpiau cymunedol a mudiadau yn y sector gwirfoddol, gan eu galluogi i ymgysylltu â thechnolegau mewn ffyrdd a oedd yn berthnasol i’w bywydau. Yr oedd yn cynnwys cronfa grantiau i gynorthwyo grwpiau cymunedol a gwirfoddol i gael mynediad at y technolegau a fyddai o fudd i aelodau’r gymuned.

Mae sawl ffordd y gall cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd wirioneddol wneud ein bywydau yn haws, megis yr e-bost, siopa ar y we a dod o hyd i wasanaethau. Wrth i dechnoleg yn gynyddol dreiddio i bob rhan o´n bywydau, y mae mwy a mwy o bethau cyffrous y gallwn eu gwneud; boed yn ddysgu´r hanfodion, e-bostio, siopa ar-lein, rhannu ffotograffau a chael gwybodaeth. Y mae cyflwyno gwe 2.0 a namau rhwydweithio cymdeithasol yn rhoi rheolaeth yn nwylo’r defnyddiwr, gan greu blogiau a chymryd rhan mewn fforymau – rhoi llais i bobl!

Mae yna lawer o bobl o hyd sydd heb fynediad at gyfrifiaduron na thechnoleg. Weithiau, gelwir y bwlch hwn yn fwlch digidol a gelwir y cysyniad hwn yn allgau digidol. Gall y rhesymau am allgau digidol gynnwys ofn technolegau newydd, y gost sy’n gysylltiedig ag offer, neu ddiffyg mynediad a chefnogaeth. Mae helpu pobl i gael mynediad at dechnoleg i wella eu sgiliau neu eu bywydau yn cael ei alw yn gynhwysiant digidol.

Strwythur y Prosiect
Mae cynhwysiant digidol yn rhywbeth y mae llawer o wledydd yn edrych arno, a cheir nifer o fentrau ar draws gweddill y DU. Y mae’n faes cynyddol bwysig - Darllenwch ragor am gynhwysiant digidol mewn mannau eraill.


Yr oedd Cymunedau @Ei Gilydd yn rhaglen cynhwysiant digidol ar gyfer Cymru a sefydlwyd gan Gyfarwyddiaeth Cymunedau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Fe’i cefnogwyd gan bartneriaid gan gynnwys Dinasyddion Ar-lein, Ymddiriedolaeth Scarman, BT a BBC Cymru a ffurfiodd y Grŵp Cynghori gydag eraill.

Amcanion y Prosiect
Nod y prosiect oedd pontio’r bwlch digidol drwy ddarparu cefnogaeth a chyda grantiau ar gael er mwyn sicrhau fod y technolegau´n cyrraedd y bobl oedd eu hangen fwyaf. Bu Cymunedau @ Ei Gilydd yn gymorth i gymunedau weld pa wahaniaeth y gallai technoleg ei wneud yn eu cymunedau.
Bu Cymunedau @Ei Gilydd yn helpu pobl yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru i gael mynediad at dechnolegau newydd drwy gefnogaeth ac argaeledd cronfa grant.
Yr oedd y prosiect yn cael ei lywio gan y gymuned ac yn ymateb i anghenion lleol, gan ategu ac adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes o ran cynhwysiant digidol. Ei nod oedd helpu’r bobl a oedd wedi’u heithrio fwyaf oddi wrth dechnolegau newydd a rhoi cyfle iddynt weld beth allai technoleg ei wneud iddyn nhw.
Rhoes y cynllun gyfle i gymunedau ddweud beth oedd eu cymuned hwy ei angen, gan ddatblygu cynllun prosiect a oedd wedi’i deilwra´n arbennig i gwrdd ag anghenion eu cymuned. Wrth galon Cymunedau @Ei Gilydd yr oedd ei ffocws ar ddatblygu cymunedol llawr gwlad.

Darllenwch fwy am sut yr oedd Cymunedau @Ei Gilydd yn gweithio.


Cyflwynwyd Cymunedau @Ei Gilydd gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.

Taflen Cymunedau @Ei Gilydd drwy chwyddwr