Cynhwysiad Digidol Cymru, 2008 Caerdydd

Cynhwysiad Digidol Cymru, 2008 Caerdydd

Trefnwyd Cynhadledd Cynhwysiad Digidol Cymru 2008 er mwyn helpu i ddatblygu a chynnal mudiad cynhwysiad digidol yng Nghymru. Tynnodd y gynhadledd sylw at fanteision cymdeithasol ac economaidd cynhwysiad digidol i’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus, preifat a chymunedol a sut y mae pontio’r gagendor digidol yng Nghymru yn dal yn sialens bwysig i bawb dan sylw. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru ac roedd yn tynnu sylw at enghreifftiau o’r gwaith a gefnogwyd drwy Cymunedau @Ei Gilydd ac yn galluogi prosiectau a oedd yn cael eu cyllido i rannu eu profiadau.

Roedd y gynhadledd yn cynnwys cymysgedd o areithiau, cyflwyniadau, gweithdai, seminarau a chyfleoedd i rwydweithio a ddarparwyd gan amrywiaeth o bobl a mudiadau sydd ar flaen y gad o ran datblygiad parhaus cynhwysiad digidol yng Nghymru.

Cyflwynwyd prif araith y diwrnod gan Leighton Andrews, y Dirprwy Weinidog dros Adfywio; a chafwyd areithiau hefyd gan Reolwr Prosiect Cymunedau @Ei Gilydd a oedd yn edrych tua dyfodol Cymunedau @Ei Gilydd a Chynhwysiad Digidol.

Cliciwch ar y dolenni isod i weld yr oriel ac i edrych ar yr e-lyfr sy’n rhoi manylion llawn y diwrnod yn rhagweithiol.