Fel Cymunedau @Ei Gilydd, nod cynlluniau cynhwysiant digidol yw helpu i sicrhau mynediad i bobl at dechnolegau newydd a gwella eu sgiliau. Ceir gwahanol ddulliau ac arianwyr.
Lloegr
Mae
Uned Allgáu Cymdeithasol Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog wedi gwneud ymchwil ar sut y gall cynhwysiant digidol helpu dinasyddion.
Yr Her Ddigidol Fe wnaeth yr
Her Ddigidol annog cymunedau yn Lloegr i ymgeisio am nawdd i fod yn gymunedau digidol. Ar ôl 79 o geisiadau, dewiswyd 10 (a elwid yn DC10), a’r cais buddugol oedd Sunderland.
Mae gwefan y prosiect yn casglu esiamplau o arferion da ac mae dan ofal Tîm Sialensiau ac Arloesedd, yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Canolfannau DUArlein Canolfannau ar draws y DU yw’r rhain lle gall pobl fynd i gael mynediad at gyfrifiaduron, yn ogystal â help a chyngor ar sut i’w defnyddio. Ceir dros 6000 o ganolfannau, yn amrywio o lyfrgelloedd i unedau symudol.
Citizens Online Elusen yn y DU yw
Citizens Online elusen sy’n ymchwilio ac yn rhoi sylw i faterion mynediad rhyngrwyd cyffredinol ac i hybu cynhwysiant digidol. Ei nod yw “sicrhau bod manteision technolegau digidol o fewn cyrraedd hawdd i bawb.” Cafwyd cyngor gan Citizens Online adeg sefydlu Cymunedau @Ei Gilydd ac maent yn aelodau o’n panel Ymgynghorol.
Maent hefyd yn cynnal
Everybody Online, sef rhaglen sy’n helpu’r cymunedau mwyaf dan anfantais i gael mynediad at dechnoleg, a’r
Cynghrair dros Gynhwysiant Digidol, sy’n grŵp o bartneriaid o’r diwydiant sy’n helpu i bontio’r bwlch digidol.
Y Ganolfan TGCh Mae’r Ganolfan TGCh yn darparu cymorth technegol i grwpiau cymunedol a gwirfoddol ac mae gan ei
gwefan sawl arweiniad TGCh.
Digital Unite Mae
Digital Unite yr hen hairnet, yn darparu help arbenigol i sefydliadau sy’n mynd i’r afael â’r bwlch digidol ac mae’n trefnu’r diwrnod ‘syrffwyr arian’ blynyddol ym mis Mai.
Yr Alban
Yn 2001 lansiodd Gweithrediaeth yr Alban strategaeth cynhwysiant digidol ‘Cysylltu Pobl yr Alban’ i fynd i’r afael â’r bwlch digidol.
Sefydlwyd Cynghrair Digidol yr Alban ym mis Rhagfyr 2005 ac mae arno gynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol. Mae’n cydlynu ac yn cyfrannu at ystod o gynlluniau cynhwysiant digidol ac yn casglu’r arferion gorau.
Mae’r
Weithrediaeth yn gweithio gyda Phrifysgol yr Alban dros Ddiwydiant (SufI) i adeiladu rhwydweithiau a hwyluso rhannu a chymorth.
Gogledd Iwerddon Mae
Uned Cynhwysiant Digidol Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn gweithio i hwyluso cymdeithas ddigidol-gynhwysol. Mae’r uned dan ofal yr Adran Gyllid a Phersonél. Ei nod yw cynyddu mynediad at dechnoleg y rhyngrwyd a chyfrifiaduron cost isel, hwylus a chynyddu sgiliau. Mae’r uned yn gweithio gyda grŵp llywio ac Everybody Online i gyflwyno 6 phrosiect i’r henoed, yr anabl a’r di-waith. Mae hefyd yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth o fand eang.
EU Mae cynhwysiant digidol ar yr agenda ar lefel Ewropeaidd. Cynhaliwyd cynhadledd i drafod cynlluniau yn 2006 yn Riga, Latfia a chynhelir cynhadledd ddilynol yn 2008 yn Lisbon, Portiwgal. Bydd hon yn bwydo i mewn i’r strategaeth oes wybodaeth i2010.
i2010 yw fframwaith polisi strategol y Comisiwn Ewropeaidd sy’n disgrifio canllawiau polisi eang ar gyfer y gymdeithas wybodaeth a’r cyfryngau yn y blynyddoedd hyd at 2010. Mae’n hyrwyddo economi ddigidol gystadleuol ac agored, ymchwil i dechnolegau gwybodaeth a chyfathrebu, ynghyd â’u cymhwyso i wella cynhwysiant cymdeithasol, gwasanaethau cyhoeddus ac ansawdd bywyd.
Buddsoddir €1bn mewn ymchwil i dechnolegau gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) gyda’r nod o wella bywyd pobl hŷn – gan ymdrechu i ganiatáu i bobl hŷn Ewrop gadw’n heini yn hwy a byw yn annibynnol.
Gwaith arall yng Nghymru Canllaw Ar-lein Mae Canllaw Ar-lein yn rhedeg prosiect
Credu sy’n darparu digi-labordai i bobl ifanc.
Ceir llawer yn rhagor o gynlluniau eraill sy’n cynnal prosiectau cynhwysiant digidol, edrychwch ar ein tudalennau dolenni cyswllt.