Blog y Broceriaid

Croeso i Flog y Broceriaid. Mae ein 12 Brocer yn gweithio ym mhob rhan o Gymru ac yma gallwch gael gwybod beth maent wedi bod yn ei wneud, pa ddolenni defnyddiol y maent wedi dod o hyd iddynt, ynghyd â chynghorion a syniadau. Gallwch weld y blog yn Saesneg hefyd.

Awdur Testun Cyhoeddiad Diwethaf
Alun Burge Dyfodol Cymunedau @Ei Gilydd March 20, 2008 10:10 AM

Yn dilyn y wybodaeth ddiweddaraf a roddais ar 7fed Chwefror mae gennym wybodaeth ychwanegol i’w rhannu yn awr ynghylch ein cyllid.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo cyllid i dalu am staff craidd Cymunedau @Ei Gilydd yng Nghanolfan Cydweithredol Cymru am gyfnod o 3 mis arall hyd at ddiwedd Medi 2008. Bydd swyddogion Llywodraeth y Cynulliad hefyd yn edrych ar y potensial ar gyfer ymestyn cyllid ar gyfer rhai o’r prosiectau hyd at ddiwedd Medi, yn amodol ar gyflawni canlyniadau ychwanegol clir.

Alun Burge
Rheolwr Prosiect Cymunedau @Ei Gilydd


Awdur Testun Cyhoeddiad Diwethaf
catherine.padfield Deddf Iaith ar y wê February 18, 2008 12:58 PM

Deddf Iaith ar y wê – mae wefan newydd dwyieithog wedi ei lansio er mwyn trafod dyfodol yr Iaith Cymraeg a pynciau eraill.  Mae eisiau barn pawb, bydd deddfau newydd yn effeithio pob un ohonyn ni.  Ewch i http://wikideddfu.com



Awdur Testun Cyhoeddiad Diwethaf
alun.burge Dyfodol Cymunedau @Ei Gilydd February 07, 2008 10:46 AM
Rydym wedi cael nifer o geisiadau am ddyfodol y cyllid ar gyfer Cymunedau @Ei Gilydd.

Daw’r cyllid ar gyfer Cymunedau @Ei Gilydd i ben ar 30 Mehefin 2008. Ar hyn o bryd rydyn ni’n cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ynghylch yr hyn a allai ddilyn. Serch hynny, nid ydym yn gwybod ar ba ffurf y byddai unrhyw brosiect olynol, beth fyddai ei ffocws, maint y fenter nac unrhyw ddyddiad cychwyn tebygol. Gobeithiwn y gellir egluro’r materion hyn y dyfodol agos.

I ddechrau, rydyn ni’n gwneud cais am gyllid ‘Cydgyfeirio’ yn yr ardaloedd Amcan Un. Mae’n debygol y bydd y ffocws yn y dyfodol yn berthnasol i’r ‘agenda Lisbon’ sy’n fwy economaidd, a allai gynnwys gwella sgiliau unigolion tuag at gyflogaeth, cynhyrchu incwm mewn grwpiau cymunedol neu sefydlu a datblygu mentrau cymdeithasol cyfredol a newydd.

Nid ydym yn sicr pryd fydd materion yn gliriach a byddwn yn rhannu unrhyw wybodaeth bellach cyn gynted ag y bydd ar gael.

Alun Burge
Rheolwr Prosiect, Cymunedau @Ei Gilydd

Awdur Testun Cyhoeddiad Diwethaf
catherine.padfield agored - meddalwedd swyddfa dwyieithog November 29, 2007 11:19 AM

Bore da

 Rydw i wedi dod o hyd i lyfr cyffrous iawn (yn fy marn i, o leiaf!) sef “Defnyddio agored, Meddalwedd swyddfa dwyieithog”. 

 O’r rhagair:

“Ffrwyth Cynllun Agored yw’r llawlyfr hwn.  Yr oedd i’r cynllun ddwy ran. Nod y rhan gyntaf oedd trosi meddalwedd swyddfa OpenOffice.org i’r Gymraeg.  Wedi’i drosi, aethwyd ati i’w osod gefn wrth gefn â’r fersiwn Saesneg, a’i addasu ar gyfer anghenion pawb yng Nghymru a thrwy’r byd sydd yn defnyddio’r Gymraeg ar eu cyfrifiadur boed hynny’n gyson neu’n achlysurol.  Nod ail ran y prosiect oedd paratoi llawlyfr a’i anelu at ddefnyddwyr Cymraeg eu hiaith er mwyn eu harwain trwy’r rhagleni.”

Datblygwyd Agored o OpenOffice.org 2.0 – casgliad o raglenni cyfrifiadurol safonol ar gyfer y swyddfa sydd yn eich galluogi i weithio yn gyfan gwbl yn Gymraeg, yn gyfan gwbl yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith.  Mae rhaglen Agored, fel pob rhadlen côd agored arall, ar gael yn rhad ac am ddim – allwch chi ddadlwytho’r rhaglen o www.agored.com, neu allwch chi prynnu cryno ddisg o’r wefan (mae’r llyfr yn dod gyda cryno ddisg).


Awdur Testun Cyhoeddiad Diwethaf
elizabeth.hudson croeso October 31, 2007 11:21 AM
helo pawb!