Dyfodol Cymunedau @Ei Gilydd

alun.burge
February 07, 2008
10:46 AM


Rydym wedi cael nifer o geisiadau am ddyfodol y cyllid ar gyfer Cymunedau @Ei Gilydd.

Daw’r cyllid ar gyfer Cymunedau @Ei Gilydd i ben ar 30 Mehefin 2008. Ar hyn o bryd rydyn ni’n cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ynghylch yr hyn a allai ddilyn. Serch hynny, nid ydym yn gwybod ar ba ffurf y byddai unrhyw brosiect olynol, beth fyddai ei ffocws, maint y fenter nac unrhyw ddyddiad cychwyn tebygol. Gobeithiwn y gellir egluro’r materion hyn y dyfodol agos.

I ddechrau, rydyn ni’n gwneud cais am gyllid ‘Cydgyfeirio’ yn yr ardaloedd Amcan Un. Mae’n debygol y bydd y ffocws yn y dyfodol yn berthnasol i’r ‘agenda Lisbon’ sy’n fwy economaidd, a allai gynnwys gwella sgiliau unigolion tuag at gyflogaeth, cynhyrchu incwm mewn grwpiau cymunedol neu sefydlu a datblygu mentrau cymdeithasol cyfredol a newydd.

Nid ydym yn sicr pryd fydd materion yn gliriach a byddwn yn rhannu unrhyw wybodaeth bellach cyn gynted ag y bydd ar gael.

Alun Burge
Rheolwr Prosiect, Cymunedau @Ei Gilydd

Sylwadau

Dim Cyhoeddiadau

Post a Comment

Does gennych chi ddim hawl i gyhoeddi pynciau

Does gennych chi ddim hawl i gyhoeddi