Lansiodd y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, Leighton Andrews AC, wefan newydd Cymunedau @Ei Gilydd (www.communitiesatone.org) yn swyddogol yn un o´r prosiectau a gyllidir gan Cymunedau @Ei Gilydd sef Merit ym Merthyr.
Adeiladwyd y safle i gynnwys nodweddion megis cyfeiriadur a fforwm yn dilyn yr adborth a gafwyd gan aelodau prosiectau a gyllidir gan Cymunedau @Ei Gilydd. Mae eich adborth wedi ein galluogi i greu safle sydd wedi´i deilwra i´ch gofynion ac mae´n cynnwys nodweddion sydd o fudd i chi a nodau eich prosiect neu´ch grwpiau´n uniongyrchol.
Mae Merit yn cynnwys nifer o aelodau grŵp cyfredol sy´n gweithredu ar lefel cymar i gymar i ddatblygu sgiliau TGCh aelodau o´r gymuned gyfagos. Cyllidir y prosiect gan Cymunedau @Ei Gilydd ac mae´n cynnwys cyflogi Cydlynydd i agor, rheoli a chefnogi rhedeg dosbarthiadau amrywiol gan gynnwys ailadeiladu a chynnal a chadw cyfrifiaduron, ffotograffiaeth ddigidol a chyfleuster rhyngrwyd galw draw.
Simon Smith yw´r Swyddog Datblygu TGCh.
Mae gwefan newydd Cymunedau @Ei Gilydd yn cynnig cyngor a gwybodaeth i grwpiau cymunedol, ac mae´n rhoi lle i brosiectau a gyllidir gan Cymunedau @Ei gilydd rwydweithio, dod o hyd i brosiectau eraill gyda diddordebau tebyg yn eu hardal a rhannu arfer da a syniadau. Mae´n ganolfan o wybodaeth lle gallwch ddod o hyd i´r newyddion cynhwysiant digidol diweddaraf yn ogystal â phecynnau ac awgrymiadau defnyddiol y gallwch eu defnyddio yn eich prosiect eich hun.
Dywed Caroline Caviel ei fod yn darparu rhywbeth i´r holl gymuned.