
Mae’r pecyn hwn wedi’i anelu at bobl sy’n rhedeg prosiectau TGCh sydd angen meddwl am ddefnydd hygyrch i bobl sy’n defnyddio’u gwasanaethau ac mae’n edrych ar y meysydd isod.
Pam bod angen pecyn cymorth sy’n edrych ar TGCh ac Anabledd?
Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (DDA) 1995, 2005
Technoleg Gynhwysol a Hygyrch – Beth mae hyn yn ei olygu?
Technoleg Gynorthwyol
Addasu eich cyfrifiadur yn rhwydd ac am ddim
Mynediad at Dechnoleg yn y Gymuned gydag RNIB Cymru
Dylunio gwefannau hygyrch
Dolenni at wefannau wedi’u dylunio’n hygyrch
Gwirio i weld a yw eich gwefan yn hygyrch
Ac yn olaf
Pam fod angen pecyn cymorth sy’n edrych ar TGCh ac Anabledd?
Gall pobl ag anabledd a symudedd cyfyngedig fanteisio ar gefnogaeth a gwasanaethau ar y rhyngrwyd. Fodd bynnag, cyfyngir yn aml ar eu gallu i fanteisio arnynt, fel y gwelir yn yr ystadegau cenedlaethol a’r ymchwil ar gyfer defnyddwyr anabl isod.
- Canfu Oftel (2000) bod gan 17 y cant o oedolion anabl gysylltiad Rhyngrwyd yn eu cartref, o’i gymharu â 25 y cant o oedolion nad ydynt yn anabl.
- Canfu Arolygon Ymchwil Prydain Fawr, 2001, bod lefelau perchnogaeth cyfrifiaduron a’r Rhyngrwyd yn sylweddol is ymhlith pobl anabl o’i gymharu â chyfanswm y boblogaeth.
- Mae rhai sydd ag anabledd sy’n effeithio’n benodol ar eu defnydd o gyfrifiaduron hefyd yn llawer llai tebygol o fod yn berchen ar gyfrifiadur (23 y cant) na rhai ag anabledd sy’n effeithio ar weithgareddau arferol (35 y cant). Mae’r ffigurau ar gyfer cysylltiad Rhyngrwyd yn y cartref yn 9 y cant a 18 y cant yn y drefn honno.
- Dangosodd yr arolwg hefyd fod pobl ag anableddau yn llai tebygol o fod wedi defnyddio cyfrifiadur neu’r Rhyngrwyd erioed na chyfanswm y boblogaeth.
- Amcangyfrifir bod gan 5 miliwn o bobl anabledd sy’n effeithio ar eu defnydd o TG, sy’n cynnwys problemau gyda symudedd aelodau uchaf y corff, nam ar eu golwg neu synhwyrau eraill neu anableddau dysgu.
- Mae dros 10 miliwn o bobl anabl ym Mhrydain; ac mae 4.6 miliwn ohonynt dros oed pensiwn y wladwriaeth ac mae 700,000 yn blant, yn ôl yr Arolwg Adnoddau Teuluol 2003-2004.
- Mae anabledd yn cynyddu gydag oed: dim ond 10% o oedolion 16-24 oed sy’n anabl, tra bod traean y boblogaeth rhwng 50 ac oed ymddeol yn anabl, Erbyn 2020 bydd gan 58% o bobl dros 50 oed gyflwr iechyd tymor hir, yn ôl y Comisiwn Hawliau Anabledd. Mae gan bobl anabl ddylanwad sylweddol ar yr economi. Mae pŵer gwariant blynyddol oedolion anabl oddeutu £80 biliwn, yn ôl yr Arolwg Adnoddau Teuluol.
- Daw darlun i’r amlwg sy’n dangos bod 30% o’r boblogaeth un ai ag anhawster cymharol wrth geisio defnyddio systemau gwybodaeth digidol neu’n methu defnyddio rhai mathau o systemau. Mae gan y niferoedd uchaf ymhlith y rhain anawsterau dysgu, yna daw pobl ag anableddau corfforol, ac yna pobl â nam ar eu clyw, gyda phobl â nam ar eu golwg yn cyfrif am y nifer isaf.
Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, 2005
Mae Rhan 3 y Ddeddf yn weithredol i unrhyw sefydliad sy’n darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau i’r cyhoedd. Mae ei darpariaethau’n golygu ei bod yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn pobl anabl trwy wrthod gwasanaeth iddynt, darparu gwasanaeth ar delerau gwaeth neu o safon is. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau wneud addasiadau rhesymol i’r ffordd maent yn darparu nwyddau a gwasanaethau er mwyn galluogi pobl anabl i fanteisio arnynt. Mae hyn yn cynnwys dyletswyddau i newid polisïau, arferion a gweithdrefnau, a darparu cymorth neu wasanaeth atebol pe bai hyn yn galluogi (neu’n ei gwneud yn haws) i bobl anabl ddefnyddio’r gwasanaethau, a fyddai fel arall yn amhosibl neu’n afresymol o anodd iddynt eu defnyddio. Am ragor o wybodaeth am y ddeddf, ewch i
http://www.direct.gov.uk/en/DisabledPeople/RightsAnd…
Technoleg Gynhwysol a Hygyrch – Beth mae hyn yn ei olygu?
Mae technoleg gynhwysol yn dechnoleg gyfrifiadurol sy’n galluogi unigolion i addasu cyfrifiadur i gwrdd ag anghenion eu golwg, eu clyw, eu deheurwydd, eu lleferydd a’u gallu gwybyddol.
Dyma rai pwyntiau pwysig i’w cadw mewn cof os ydych yn rhedeg prosiect TG:
- Rydym i gyd yn cael yr un offer
OND nid ydym i gyd yr un fath.
- Cyfrifiaduron ddylai newid
NID y defnyddiwr
- Meddyliwch am y person yn gyntaf
AC WEDYN y dechnoleg…………..
- Nid oes rhaid rhuthro allan i brynu addasiadau; dylech yn hytrach asesu anghenion yr unigolyn
Technoleg Gynorthwyol
Gall technoleg gynorthwyol fod yn rhaglenni meddalwedd, megis meddalwedd sy’n siarad ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall, neu’n offer fel llygoden hawdd ei defnyddio neu fysellfwrdd â bysellau mawr.
Addasu eich cyfrifiadur yn rhwydd ac am ddim
Mae Ability net yn elusen genedlaethol sy’n cynorthwyo oedolion a phlant anabl i ddefnyddio cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd trwy addasu a chymhwyso’u technoleg. Maent yn cynhyrchu taflenni gwybodaeth ac adnoddau i addasu gosodiadau cyfrifiaduron mewn gwahanol ddarnau o galedwedd a chymwysiadau sydd fel arfer ar gael am ddim neu am bris rhesymol
http://www.abilitynet.org.uk/athome_resources
Mae ganddynt restr gynhwysfawr o ddolenni at dechnoleg
http://www.abilitynet.org.uk/athome_at a meddalwedd
http://www.abilitynet.org.uk/athome_shareware cost isel a defnyddiol
Mynediad at Dechnoleg yn y Gymuned gydag RNIB Cymru
Mae RNIB Cymru wedi derbyn arian gan Gymunedau@Ei Gilydd i redeg prosiect i gynorthwyo darparwyr TGCh cymunedol i ddeall a darparu ar gyfer anghenion pobl ddall a rhannol ddall. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Llinell Wybodaeth ar 0845 602 0893 neu e-bostiwch
atic@rnib.org.uk
Dylunio gwefannau hygyrch
Mae dylunio gwefannau hygyrch yn golygu bod tudalennau eich gwefan yn hawdd eu defnyddio yn yr ystyr ehangaf i bawb sy’n ymweld â’ch gwefan. Mae hyn yn cynnwys diwyg, darllenadwyedd, dewis o liwiau, rhyddid porwyr, yn ogystal ag ystyried gofynion y sawl sy’n defnyddio technoleg wedi’i haddasu, cynorthwyol neu amgen.
Wrth ysgrifennu testun ar gyfer y we, dylid sicrhau bod penawdau paragraffau’n gwneud synnwyr, fel eu bod yn ddealladwy pan gânt eu darllen gan feddalwedd darllen testun. Dylai lluniau hefyd gynnwys disgrifiadau (sy’n cael eu hadnabod fel tagiau Alt).
Mae "Accessible Website Design – A practical and strategic guide", sydd ar gael oddi wrth Fforwm y Cyflogwyr ar Anabledd (www.efd.org.uk), yn gyflwyniad defnyddiol i arferion da ac mae’n costio £15 i aelodau ac £20 i bawb arall.
Mae’r canlynol yn rhestr o ffynonellau gwybodaeth ac adnoddau ar-lein sy’n ymwneud ag arferion da wrth ddylunio gwefannau.
Cymorth wrth ddylunio gwefannau hygyrch
Mae Consortiwm y We Fyd Eang (W3C) ar flaen y gad o ran datblygu safonau dylunio da ar y We Fyd Eang (gan gynnwys hygyrchedd). Mae’r rhain wedi eu hamlinellu ar dudalennau “Menter Hygyrchedd y We” (WAI) yn
www.w3c.org
Mae’r Grŵp Dylunio Gwefannau yn sefydliad sy’n hyrwyddo arferion da mewn dylunio gwefannau - gan gynnwys dylunio nad yw’n benodol ar gyfer un porwr, dylunio nad yw’n benodol i un cydraniad ac sy’n agored i bawb. Maent yn cynnig cyngor arbenigol am ddim yn ogystal â nifer o wobrau am arferion da. Mae eu gwefan i’w gweld yn:
www.htmlhelp.com
Am ganllawiau ar ddylunio hygyrch ewch i dudalen gartref y Trace Research and Development Center (rhan o Brifysgol Wisconsin).
www.trace.wisc.edu
Mae ymgyrch i annog dylunwyr i gydymffurfio â’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Trace Center wedi ei lansio gan y National Center for Accessible Media.
www.wgbh.org
Mae WebABLE yn cynnal safle sy’n cynnig toreth o adnoddau ar y rhyngrwyd sy’n berthnasol i bobl anabl, gan gynnwys cronfa ddata helaeth (gyda phwyslais ar Ogledd America) ar bob agwedd o hygyrchedd.
www.webable.com
Gwirio i weld a yw eich gwefan yn hygyrch
Beth os ydych wedi ysgrifennu eich tudalennau eisoes ac am gael gwybod a ydynt yn cydymffurfio â safonau dylunio gwefannau hygyrch?
Os nad ydych wedi llwytho eich cod eto efallai yr hoffech ymweld â gwefan y Grŵp Dylunio Gwefannau sy’n cynnwys rhestr o ddolenni i safleoedd sy’n cynnig gwasanaethau dilysu HTML am ddim. Bydd y rhain yn gwirio’ch cod am wallau cystrawen, arddull a chydymffurfiad â’r safonau yn
www.htmlhelp.com/links/validators.htm
Os yw eich gwefan eisoes yn fyw, gellir gwirio ei hygyrchedd yn erbyn safonau W3C. Mae safle o’r enw "Bobby" yn cynnwys prawf hygyrchedd awtomatig am ddim ar gyfer gwefannau. Teipiwch URL y safle sydd i’w brofi a bydd Bobby yn dangos fersiwn o bob tudalen, gan ddangos yr elfennau hynny sydd angen eu haddasu. Mae cyfleuster profi gwefannau Bobby ar gael yn:
http://bobby.watchfire.com
Os yw eich safle’n cydymffurfio â safonau dylunio gwefannau hygyrch gallwch arddangos y logo Bobby awdurdodedig priodol a chael eich cynnwys ar eu cronfa ddata o wefannau sydd wedi eu cymeradwyo gan Bobby.
Ac yn olaf
Dolenni pellach at safleoedd sy’n cefnogi pobl ag anableddau.
Sylwer: nid yw Cymunedau@Ei Gilydd yn cymeradwyo nac yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol (darllenwch ein
hymwadiad am ragor o wybodaeth).
- Ability Magazine - cyhoeddiad Grŵp Anabledd Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain sy’n ymgyrchu dros TG hygyrch.
http://www.abilitymagazine.org.uk .
- Cyfeiriadur y We ac Adnoddau Rhyngrwyd Ability.
http://www.ability.org/.
- Abilitymedia.co.uk - yn hyrwyddo cynhwysiant anabledd a chymdeithasol yn y DU. Cyhoeddwyr Ability Magazine ac mae’n gyfrifol am redeg www.n-e-ability.co.uk ac www.ukshopability.co.uk
- AbilityOnline.net - grŵp bychan o ddefnyddwyr anabl ar y rhyngrwyd <http://www.AbilityOnline.net>..
- Ace Centre North.
http://www.ace-north.org.uk.
- Action for M.E. Support.
http://www.afme.org.uk.
- Active Mobility Centre.
http://www.activemobility.co.uk.
- ADAPT - mynediad i ddefnyddwyr anabl i ganolfannau celfyddydol heddiw.
<http://www.adapttrust.co.uk>.
- anAurora – Y Cylchgrawn ar y We i Ferched Anabl.
http://www.anaurora.co.uk.
- Gofal Arthritis – cefnogi, ymgyrchu a gwasanaethau i bobl ag arthritis.
http://www.arthritiscare.org.uk.
- Technoleg Gynorthwyol Ar-lein.
http://www.asel.udel.edu/..
- Cymdeithas Spina Bifida a Hydrocephalus.
http://www.asbah.org.
- BECTA – Asiantaeth Cyfathrebu a Thechnoleg Addysgol Prydain. Gwybodaeth ar agwedd addysgol anghenion arbennig. Y Cyngor Cenedlaethol dros Dechnoleg Addysgol gynt.
http://www.becta.org.uk.
- Cymdeithas Awtistiaeth Berkshire (BAS) - grŵp cefnogi a gweithredu i rieni a chynhalwyr plant ac oedolion ag awtistiaeth, problemau’n gysylltiedig ag awtistiaeth, Syndrom Asperger neu ymddygiad heriol.
<http://www.autismberkshire.org.uk>.
- Cymdeithas Cynhalwyr Birmingham.
http://www.birmingham-carers.org.uk.
- Cymdeithas Tai Canmore - yn darparu tai fforddiadwy i bobl ar incymau isel a/neu ag anghenion arbennig.
<http://www.canmore-housing.org.uk/>.
- Y Ganolfan dros Amgylcheddau Hygyrch – yn gweithio i wneud yr amgylchedd adeiledig yn hygyrch i bawb.
Nutmeg House
60 Gainsford Street,
Llundain SE1 2NY
e-bost: info@cae.org.uk,
Ffôn/ffôn testun: 020 7357 8182,
Ffacs: 0207357 8183.
- CFTD - Cyfrifiaduron i’r Anabl - Cyfrifiaduron a chydrannau cyfrifiadur newydd ac ail-law i bobl anabl, rhai sy’n gaeth i’w cartref, canolfannau pobl anabl a defnyddwyr yn eu cartref gan ein mudiad dielw.
<http://www.cftd.co.uk>
- Canolfannau Cyngor ar Bopeth
Advice Guide: http://www.adviceguide.org.uk
Gwefan: http://www.citizensadvice.org.uk
Llinell Gwirfoddolwyr 08451 264 264 (cyfradd leol o ddydd Llun i ddydd Gwener)
- Computing Out Loud – safle annibynnol sy’n helpu pobl i ddefnyddio meddalwedd adnabod llais.
http://www.out-loud.com/.
- Communication Matters (ISAAC UK) - Grŵp Cyfathrebu Dwysaol Amgen.
<http://www.communicationmatters.org.uk>.
- Compass Mobility – yn arbenigo mewn lifftiau grisiau wedi’i hadnewyddu.
http://www.compass-mobility.co.uk.
- Companion Stairlifts – ni yw un o werthwyr mwyaf lifftiau grisiau yn y DU.
http://www.companionstairlifts.co.uk.
- CRDC – Cynghrair Anabledd Dewisiadau a Hawliau.
http://www.choicesandrights.org.uk/.
- Yr Adran Addysg a Sgiliau.
http://www.dfes.gov.uk.
- Disability Action Yorkshire.
http://www.www.da-y.org.
- Y Cynghrair Anabledd
http://www.disabilityalliance.org.
- Mae Disability Awareness in Action (DAA) yn rhwydwaith hawliau dynol rhyngwladol sy’n cael ei redeg gan ac ar gyfer pobl anabl.
http://www.daa.org.uk.
- Cyngor y Canolfannau Byw gydag Anabledd – Gwybodaeth am y 47 Canolfan ledled y DU.
http://www.dlcc.org.uk.
- Gwasanaeth Gwybodaeth ar Anabledd - Sefydliad y Frenhines Elizabeth.
<http://www.diss.org.uk>.
Y Comisiwn Hawliau Anabledd.
http://www.drc-gb.org.
- Disabled-Enabled.
http://www.disabled-enabled.com.
- Sefydliad Byw’n Anabl.
http://www.dlf.org.uk.
- Disability Net. Gwasanaeth gwybodaeth, fforwm, siopa a chronfa ddata adnoddau ar gyfer y DU.
http://www.disabilitynet.co.uk/.
- Disability Now – Y papur newydd sydd wedi ennill gwobrau i bawb â diddordeb mewn anabledd.
http://www.disabilitynow.org.uk.
- Disability on the Agenda – safle gwybodaeth y llywodraeth ar y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd a’r Adran dros Addysg a Chyflogaeth.
http://www.disability.gov.uk/.
- Disability World – safle bach sy’n cael ei redeg o’r Alban.
http://www.disabilityworld.com.
- DISS - mudiad cyngor a gwybodaeth gwirfoddol, ac mae’n un o ganolfannau Sefydliad y Frenhines Elizabeth.
http://www.diss.org.uk.
- Electric Wheelchairs at The Wheelchair Site – gwefan annibynnol wedi’i chynllunio i’ch helpu i ddewis y gadair olwyn orau i chi i’ch helpu ar eich ffordd. http://www.thewheelchairsite.com.
- Fforwm y Cyflogwyr ar Anabledd.
http://www.efd.org.uk.
- EnableMe2 – nwyddau, gwasanaethau a gwybodaeth.
http://www.enableme2.com.
- Essential Learning Institute – safle sy’n cynnwys gwybodaeth, sy’n profi nwyddau a rhaglenni i ganfod a datrys anableddau dysgu.
http://www.LDhope.com.
- ForParentsByParents
http://www.forparentsbyparents.com.
- Functional Independence Skills Handbook - asesiad a chwricwlwm llawn gyda chynllun gwersi wedi’u cynllunio i gynorthwyo pobl ag anableddau datblygiadol
<http://webpages.charter.net/fishscales/index.html>.
- GAIN (Leicester and Leicestershire IAG Partnership) - gwasanaeth gyrfa newydd i bobl anabl 20 oed+ yn ninas a Swydd Gaerlŷr.
Cynghorydd Allgymorth Anabledd: Vince Thacker
E-bost vince@gainleics.fsnet.co.uk
Rhif ffôn symudol: 07734 899 089 (no text messages)
Fforwm ar y we: Leicestershire Disability Careers Forum
- Y Gymdeithas Cŵn Tywys i’r Deillion.
<http://www.gdba.org.uk>.
- Hearing Aids at Hearing Aids 101.
http://www.hearingaids101.com.
- Heart ´n´ Soul Music Theatre – un o’r prif grwpiau celfyddydol i bobl anabl. http://www.heartnsoul.co.uk.
- Hot Braille – Gwasanaeth trawsysgrifio am ddim i ddefnyddwyr Braille.
(hyd at 250 o eiriau, bydd y neges Braille yn cael ei hanfon drwy’r post).
http://www.hotbraille.com.
- Mae gwefan yr ICT Consortium yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gynorthwyo’r sector gwirfoddol a chymunedol i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd TGCh sydd ar gael.
<http://www.ictconsortium.org.uk/>.
- IT Can Help - Gr?p cefnogi TG gwirfoddol.
<http://www.itcanhelp.org.uk>.
- KEL Sound and Vision – yn dylunio ac yn gosod dolenni sain, systemau is-goch a systemau clyweled tebyg ar gyfer pobl sy’n drwm eu clyw.
http://www.kelsound.co.uk/.
- King´s Fund – sefydliad elusennol annibynnol sydd â’r nod o wella iechyd pobl, gyda phwyslais arbennig ar Lundain.
http://www.kingsfund.org.uk.
- LEAD Scotland – Yn cysylltu Addysg ac Anabledd.
http://www.lead.org.uk.
- Leonard Cheshire – yn gweithio â 12,000 o bobl anabl yn y DU, a 15,000 arall ledled y byd.
http://www.leonard-cheshire.org.
- Mabels – gwefan wedi’i hanelu at y genhedlaeth hŷn ac sy’n cynnig cefnogaeth a gwasanaethau dyddiol.
http://www.mabels.org.uk.
- Cymdeithas Sglerosis Ymledol.
http://www.mssociety.org.uk.
- Fforwm Gwybodaeth Genedlaethol – mudiad gwirfoddol sy’n ymgyrchu dros ddarparu gwybodaeth hygyrch.
http://www.nif.org.uk.
- n-e-ability.co.uk - porth rhanbarthol sy’n darparu gwybodaeth ar anabledd a ffyrdd o fyw i’r gymuned yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr.
<http://www.n-e-ability.co.uk/>.
- Opportunities – elusen gyflogaeth i bobl ag anableddau.
http://www.opportunities.org.uk/.
- People in Action – cefnogaeth i aelodau ag anabledd dysgu.
http://www.people-in-action.co.uk.
- Propeller Multimedia Ltd – meddalwedd adsefydlu i bobl sydd wedi dioddef anafiadau i’r pennau.
http://www.propeller.net/rehab.
- Sefydliad y Frenhines Elizabeth – elusen genedlaethol sy’n cefnogi dros 20,000 o bobl ag anableddau corfforol bob blwyddyn.
http://www.qefd.org.
- Raisingkids.co.uk – yn darparu gwybodaeth a chyngor am ddim i rieni.
http://www.raisingkids.co.uk.
- Remap - yn cynhyrchu cymhorthion technegol yn wirfoddol i bobl anabl.
Y safle cenedlaethol- www.remap.org.uk <http://www.remap.org.uk>.
- Ricability – elusen ymchwil genedlaethol a chyngor i ddefnyddwyr hŷn ac anabl.
<http://www.ricability.org.uk>.
- Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB).
http://www.rnib.org.uk.
- Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Hybu’r Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a Masnach (RSA) yn adnodd wedi’i sefydlu i gynorthwyo dylunwyr, gweithgynhyrchwyr a darparwyr gwasanaethau gyda’r wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i sicrhau bod yr hyn a ddylunnir ganddynt yn hygyrch i gymaint o bobl â phosibl.
www.theRSA.org.uk/inclusivedesign
- Sabre Employment - yn darparu atebion creadigol a chynaliadwy er mwyn recriwtio a chadw pobl ag anableddau.
<http://www.sabre-employment.co.uk>.
- SCAMP – Elusen sy’n ymdrechu i wella mynediad at wybodaeth.
<http://www.scamp.org.uk>.
- Scope – Yr elusen genedlaethol i bobl â Pharlys yr Ymennydd.
http://www.scope.org.uk/..
- Skill – Y swyddfa genedlaethol ar gyfer myfyrwyr ag anableddau.
http://www.skill.org.uk.
- Speech Centre.
http://www.psbc.co.uk.
- Stroke Survivors – cynllunwyd ar gyfer Dioddefwyr Strôc y Serebelwm. http://www.stroke-survivors.co.uk.
- studentTIES.com – prosiect sy’n annog pob math o ddysgu ôl 16 oed trwy alluogi myfyrwyr i chwilio a chysylltu ag eraill sydd hefyd yn ystyried/wedi gwneud cais.
<http://www.studentties.com/>.
- TechDis Accessibility Database - NIAD a Dis-in-He gynt.
http://www.techdis.ac.uk/access.html.
- Tesco – mae’r archfarnad yn darparu peth meddalwedd hyfforddi ar y we ar gyfer defnyddwyr â nam ar eu golwg.
http://www.tesco.com.
- Cymdeithas y Beicwyr Modur Anabl.
http://www.thedma.org.uk.
- Yr Ymddiriedolaeth Anableddau.
http://www.disabilities-trust.org.uk .
- Canolfan Niwrolegol Glaxo- canolfan unigryw wedi’i hadeiladu’n unswydd sy’n cynnig gwybodaeth anfeddygol a chyngor i bobl â chyflyrau niwrolegol, eu teuluoedd a’u cynhalwyr.
<http://glaxocentre.merseyside.org>. Hefyd yn ADITUS, the NHS Northwest health information portal <
- Mae’r Leeds Society for Deaf and Blind People yn fudiad gwirfoddol a sefydlwyd i ddiwallu anghenion penodol pobl â nam ar eu synhwyrau sy’n byw yn ardal fetropolitan Leeds.
http://www.leedsdeafandblind.org.uk/.
- The Papworth Trust – elusen gofrestredig sy’n cynorthwyo ac yn cefnogi pobl anabl i fod yn fwy annibynnol yn eu cartref neu yn y gwaith http://www.papworth.org.uk.
- The Solicitors Room – panel ar-lein o gyfreithwyr ar gyfer cleientiaid anabl ym mhob agwedd o’r gyfraith.
http://www.TheSolicitorsRoom.com.
- U Can Do I.T. – elusen sy’n cynnig hyfforddiant ar y rhyngrwyd am gost isel i bobl ddall, byddar ac anabl
http://www.ucandoit.org.uk.
- U Care We Care – cyfeiriadur o ga