
Gan Helen Kell, Brocer Cymunedol – Blaenau Gwent.
Deall sut y gallwch wneud crwydro’r we’n ddiogel i blant yn eich gofal.
Beth yw diogelwch ar y rhyngrwyd?
Perygl i feddalwedd
Perygl i chi eich hun
Ansawdd gwybodaeth
Peryglon twyll
Sut mae bod yn ddiogel ar-lein
Enghreifftiau o arferion da
Ac yn olaf
Dolenni
Wrth i dechnoleg chwarae rhan fwy a mwy amlwg yn ein bywydau, dylid cymryd gofal yn y byd ar-lein yn union fel yn y byd go iawn.
Mae cyfrifiaduron ar gael i bobl hen ac ifanc mewn llawer o ganolfannau cymuned a chan grwpiau cymunedol. Mae’n bwysig bod y grwpiau sy’n berchen ar yr offer yn gwybod sut mae bod yn ddiogel ar-lein a sicrhau eu bod yn gallu dysgu defnyddwyr eraill i fod yn ddiogel ar-lein, yn enwedig rhai sydd o dan 16 oed.
Beth yw Diogelwch ar y Rhyngrwyd?
Mae’r term diogelwch ar y rhyngrwyd yn un cyffredinol iawn ac nid yw’n egluro beth yw peryglon posibl y rhyngrwyd. Mae tri maes y dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol ohonynt a gwneud pob ymdrech i’w hosgoi,
1) Perygl i feddalwedd,
2) Perygl i chi eich hun, ac
3) Ansawdd gwybodaeth.
Perygl i Feddalwedd
Gall gwefannau a negeseuon e-bost gynnwys firysau a rhaglenni maleisus eraill cuddiedig a all effeithio ar y ffordd mae eich cyfrifiadur yn gweithio. Gallant weithiau gofnodi’r hyn sy’n digwydd ar gyfrifiadur, gan gynnwys pa allweddellau yr ydych yn eu pwyso. Mae’n syniad da i beidio agor e-bost neu ffeil sydd wedi cael ei hanfon atoch gan rywun nad ydych yn ei adnabod. Ceir rhestr isod o ddolenni sy’n trafod firysau a rhaglenni maleisus, sut i’w hatal ar eich peiriant a’r hyn y gallwch ei wneud os cewch eich effeithio gan un.
Perygl i Chi eich Hun
Mae pobl o bob oed yn fwy agored gyda’i gilydd wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd nag y byddent pe baent yn cwrdd â phobl newydd yn y byd go iawn. Er bod mwyafrif y bobl sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn gyfeillgar a gonest, mae pobl eraill yn dra gwahanol i’r maent yn ei honni. Mae’n well peidio datgelu manylion personol amdanoch eich hun wrth bobl dros y rhyngrwyd. Meddyliwch am eich diogelwch personol cyn trefnu i gwrdd â phobl yr ydych wedi eu cyfarfod ar-lein. Ni ddylai plant byth gwrdd â phobl maent wedi eu cyfarfod ar y rhyngrwyd.
Ansawdd Gwybodaeth
Gall unrhyw un roi gwefan ar y rhyngrwyd neu ddweud rhywbeth ar hysbysfyrddau. Gall fod yn anodd gwahaniaethu weithiau rhwng ffeithiau a barn rhywun arall.
Peryglon twyll
Mae e-bost gan rywun sy’n cymryd arnynt eu bod yn cynrychioli eich banc yn cael ei alw’n we-rwydo neu ‘phishing’ yn Saesneg. Fel arfer ni fydd eich banc byth yn gofyn am eich cyfrinair a gwybodaeth gyfrinachol / bersonol mewn e-bost.
Sut i fod yn ddiogel ar-lein
Y ffordd orau i ddelio â phob agwedd ar ddiogelwch ar y rhyngrwyd yw trwy drafod y peryglon â’ch gilydd, a chytuno sut yr ydych am ddelio â hwy.
Mae
www.kidsmart.org.uk/ yn wefan sy’n cynnwys taflenni wedi eu hanelu at blant, rhieni ac athrawon ar bob math o bynciau sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein, ac maent ar gael i’w lawrlwytho.
Mae Wisekids -
www.wisekids.org.uk yn trefnu sesiynau hyfforddi ar ddiogelwch ar-lein ar gyfer grwpiau.
Diogelwch Ar-lein – Enghreifftiau o Arferion Da
Er nad oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i ddilyn canllawiau diogelwch ar-lein, mae’n syniad da i ddilyn pob un neu rai o’r canlynol.
• Meddalwedd i’ch diogelu ar y Rhyngrwyd fel Net Nanny a Cyber Patrol. Mae’r rhain yn caniatáu gweinyddwr yr ystafell gyfrifiaduron i gyfyngu ar fynediad i rannau o’r rhyngrwyd ar gyfer defnyddwyr neu grwpiau gwahanol.
• Oedolion yn goruchwylio yn yr ystafell gyfrifiaduron. Pan fydd yr ystafell yn cael ei defnyddio gan oedolion, bydd un gwirfoddolwr neu aelod o staff wrth law yn ddigon os bydd rhywbeth annisgwyl yn digwydd, megis rhybudd o firws neu negeseuon e-bost rhyfedd. Os oes plant neu bobl ifanc yn defnyddio’r ystafell, yna mae’n well dilyn polisïau goruchwylio plant a sicrhau bod gennych oedolion ychwanegol sy’n briodol i nifer / oed y plant.
• Dylech gael polisi defnydd derbyniol cadarn sy’n cael ei ddiweddaru’n gyson. Bydd yr hyn sy’n ddefnydd priodol i un person yn amhriodol i rywun arall ac mae gan bawb hawl i ddefnyddio’r offer. Felly, bydd cael cyfres o reolau y mae’n rhaid i bawb gytuno arnynt cyn defnyddio’r offer, yn golygu bod pawb yn gwybod beth sy’n cael ei gyfrif fel ymddygiad priodol.
Gweler Arweiniad Cymunedau@ Ei Gilydd ar bolisïau defnydd derbyniol.
• Dylech ei gwneud yn amod bod pob plentyn a pherson ifanc o dan 16 oed yn dangos ffurflen gydsyniad wedi’i llofnodi gan riant neu warcheidwad cyn eu bod yn cael defnyddio’r offer.
Bydd y pwyntiau uchod yn helpu i leihau’r peryglon i’r defnyddiwr ac i’r offer, yn enwedig os cânt eu cyfuno â hyfforddiant.
Ac yn Olaf….
Fel popeth arall yn y byd technolegol, mae cyfathrebu trwy’r rhyngrwyd yn datblygu ac yn newid yn gyflym. Mae’n bwysig bod grwpiau’n ymwybodol o’r newidiadau ac yn gwybod i ba ddiben mae pobl yn defnyddio’u hoffer. Y ffordd orau o wneud hyn yw trwy siarad â defnyddwyr a’u holi.
Dolenni
Mae rhagor o wybodaeth ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd ar gael yn y gwefannau isod;
www.bbc.co.uk/chatguide/
www.wisekids.org.uk/
www.kidsmart.org.uk/
www.getsafeonline.org/
www.nspcc.org.uk/helpandadvice/parentsandcarers/safesurfing/safesurfing_wda35959.html
www.childline.org.uk/Safesurfing.asp
www.thinkuknow.co.uk/
www.chatdanger.com/
www.nch.org.uk/information/index.php?i=134
Diweddariad diwethaf: Hydref 2007