Wrth i TG yn y sector gwirfoddol gael ei ddefnyddio’n ehangach ac wrth iddo gael ei ymgorffori yn yr amgylchedd gwaith, un o’r ystyriaethau allweddol yw pwy sy’n cydlynu’r holl weithgaredd hwnnw?
Mae rhai gweithwyr cymunedol sy’n meddu ar wybodaeth TG yn canfod eu hunain mewn rôl o gydlynu’r dechnoleg – ond sut maent yn dod yn gydlynydd TG effeithiol?
Mae yna nifer o ystyriaethau pwysig sy’n ymwneud â strategaeth, trefniadaeth, cynllunio a chyfathrebu.
Mae Cymunedau@EiGilydd wedi cysylltu â chanllaw o’r ICT knowledgebase, sy’n cael ei ddatblygu a’i redeg gan LASA – Cynghrair Gwasanaethau Cyngor Llundain – fel adnodd ar gyfer sefydliadau cymunedol a gwirfoddol sy’n defnyddio TGCh.
Mae LASA wedi darparu cyngor TGCh i sefydliadau gwirfoddol ers 1984.
Cynlluniwyd knowledgebase i helpu sefydliadau cymunedol a sefydliadau’r sector gwirfoddol i gael mynediad i fanteision technoleg gwybodaeth. Mae’r gronfa ddata gwybodaeth yn ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth a chyngor TGCh.
Mae’r canllaw Managing IT and the Role of an IT Coordinator yn cwmpasu pum prif faes:
• Y Grŵp Project – strategaeth, gweinyddiaeth TG, gosodiadau, ymholiadau a chymorth, hyfforddiant.
• Yr hyn y mae cydlynydd TG LASA yn ei wneud
• Pa lefel o arbenigedd technegol sy’n ofynnol?
• Strategaeth – Ymagwedd ymarferol
• Fframwaith cymorth LASA – Uwch Ddefnyddiwr, Cydlynydd TG, Cymorth technegol allanol, rheolwyr a’r Grŵp Project TG
CYNGOR – Os bydd y canllaw hwn yn ddefnyddiol, gallwch ei argraffu a’i ychwanegu i gynllun datblygu eich sefydliad.