TGCh a Gwirfoddolwyr – Canllaw Arfer Gorau

23 Mar 2009
stephen.dixon Mae llawer o brojectau Cymunedau@EiGilydd wedi elwa ar gymorth gwirfoddolwyr yn ystod cyfnodau gwahanol, naill ai wrth sefydlu mentrau neu wrth chwarae rhan yn y broses o’u cyflenwi’n llwyddiannus.

Wrth i brojectau TGCh cymunedol ddatblygu, mae’n bwysig ystyried perthynas sefydliad gyda’r gwirfoddolwyr hynny.

Un her i’r sefydliadau hynny sy’n wynebu problemau ariannu ar gyfer eu projectau TGCh yw sut y mae gwirfoddolwyr yn cael eu cynnwys mewn cynllun ar gyfer eu cynnal.

Mae Cymunedau@EiGilydd wedi cysylltu â chanllaw o’r ICT knowledgebase, sy’n cael ei ddatblygu a’i redeg gan LASA – Cynghrair Gwasanaethau Cyngor Llundain – fel adnodd ar gyfer sefydliadau cymunedol a gwirfoddol sy’n defnyddio TGCh.

Mae LASA wedi darparu cyngor TGCh i sefydliadau gwirfoddol ers 1984.

Cynlluniwyd knowledgebase i helpu sefydliadau cymunedol a sefydliadau’r sector gwirfoddol i gael mynediad i fanteision technoleg gwybodaeth. Mae’r gronfa ddata gwybodaeth yn ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth a chyngor TGCh.

Mae Guide to Working with ICT Volunteers y gronfa ddata gwybodaeth yn cwmpasu pedwar prif faes:

• Gofynion Sylfaenol – Ymrwymiad, Cynaliadwyedd a Hyblygrwydd
• Cyn i chi ddechrau
• Cadw golwg ar gynnydd
• Cyfrinachedd a chyfrifoldeb cyfreithiol

CYNGOR – Os bydd y canllaw hwn yn ddefnyddiol, gallwch ei argraffu a’i ychwanegu i’ch deunydd hyfforddi gwirfoddolwyr.