
Cronfa grant
Cafodd Cymunedau @Ei Gilydd ei lansio yn Ionawr 2006. Gwerth gwreiddiol y gronfa grant oedd £4.5 miliwn i gynorthwyo prosiectau hyd at Fai 2008. Cafodd y ffigur ei gynyddu i fodloni’r galw aruthrol am ein cymorth. Erbyn Gorffennaf 2007 roedd £5.5 miliwn wedi cael ei ymrwymo i 150 o brosiectau TGCh cymunedol ledled Cymru.
Ym mis Rhagfyr 2007 cyhoeddodd Cymunedau @Ei Gilydd fod dros £6 miliwn wedi cael ei ymrwymo i dros 200 o brosiectau TGCh cymunedol ledled Cymru.
Y diweddaraf am y Gronfa Grant
Bydd Cymunedau @Ei Gilydd yn dod i ben ar 31ain Mawrth 2009. Mae’r gronfa grant bellach wedi’i dyfarnu’n llawn.
Pwy oedd yn gymwys?
Yr oedd Cymunedau @Ei Gilydd yn gweithio yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru, sef y 142 o wardiau etholiadol ym Mynegai Amlamddifadedd Cymru.
Bu Broceriaid Cymunedol yn gweithio gyda grwpiau gwirfoddol a chymunedol gan eu helpu i greu prosiect i helpu pobl i ddechrau defnyddio TGCh (technoleg gwybodaeth a chyfathrebu). Yn y pen draw, bu pob un o brosiectau Cymunedau @Ei Gilydd a dderbyniodd gefnogaeth o fudd i’r gymuned.
Broceriaid Cymunedol
Dyrannwyd broceriaid i wahanol ardaloedd o Gymru, pob un â’u gwybodaeth a’u profiad eu hunain o’u rhanbarth. Yr oeddent yn darparu cyngor yn ystod y cyfnod cynllunio ar gyfer prosiectau hyfyw, yn cynghori sut i wneud y defnydd gorau o gyfarpar oedd ganddynt eisoes ac yn helpu grwpiau i baratoi’u cais am grant – gan eu cefnogi drwy’r broses gyda chyngor, syniadau ac arweiniad.
Pwy oedd yn gymwys?
Yr oedd y grantiau’n ariannu staff cefnogi, megis mentoriaid, yn ogystal â chyfarpar. Yn ystod cyfnod y fenter, darparodd Cymunedau @Ei Gilydd gefnogaeth i 214 o brosiectau. Roedd y rhain yn cynnwys:
• gliniaduron i helpu pobl sydd ar eu pennau eu hunain i gadw mewn cysylltiad drwy ddefnyddio e-bost a gwasanaethau siopa ar-lein.
• ystafelloedd cyfrifiaduron a seiber-gaffis gyda mynediad ‘galw-i-mewn’ i’r we am ddim i helpu pobl i ymchwilio i’w hachau teuluol, i chwilio am waith a chael gafael ar gyngor neu ddysgu ar-lein.
• mentoriaid a oedd yn cefnogi pobl i ddysgu ar eu cyflymder eu hunain, eu hannog i ddatblygu a’u cyfeirio tuag at gyfleoedd dysgu pellach.
• prosiectau ffotograffiaeth neu ddweud straeon digidol a oedd yn datblygu llawer o sgiliau, yn cynyddu ysbryd cymunedol a chynorthwyo pobl i ganfod ffordd wahanol o ddeall eu materion personol.
• cymorth technegol i sicrhau y gallai prosiectau redeg yn ddidrafferth
• gwefannau cymunedol a oedd yn creu mwy o ymdeimlad o ysbryd cymunedol ac yn tynnu sylw at wasanaethau lleol.
Edrychwch ar y rhestr o’r holl brosiectau a ariannwyd gan Cymunedau @Ei Gilydd