Trwsio ac adeiladu cyfrifiaduron

stephanie.bond
Helpu pobl i drwsio a chynnal a chadw eu cyfrifiaduron eu hunain
 

Anelu at gyrraedd:

 
  • Pobl â chyfrifiadur ond sydd heb wybodaeth i’w gynnal a’i gadw a’i drwsio os bydd yn torri.
 
Syniad:
 
  • Dangos i bobl sut mae diweddaru meddalwedd gwrth-firws, sefydlu rhwydwaith diwifr, uwchraddio cof cyfrifiadur, arsefydlu meddalwedd newydd a datrys problemau technegol gan leihau’r angen am gymorth dechnegol gostus.
 

Gallai arwain at:

 
  • Ddysgu sgiliau newydd, ymestyn oes eu cyfrifiaduron, llai o risg o ddal firysau, arbed arian ar gymorth dechnegol.
 
Dolenni:
 

Dangos sut mae prosiect HAEDDU yn helpu pobl i gynnal a chadw’u cyfrifiaduron.http://www.haeddu.co.uk/ 

 

Mae cyrsiau ailadeiladu cyfrifiaduron PC Care  hefyd yn boblogaidd dros ben.

Trwsio ac adeiladu cyfrifiaduron yn HAEDDU