Rhwydweithio Ar-lein

23 Mar 2009
marc.davies

Yn anelu at gyrraedd:
Unigolion neu sefydliadau sydd â pherthynas â’ch project neu faes gwaith, E.e. buddiolwyr, partneriaid, cwsmeriaid, cleientiaid, cyflenwyr, noddwyr, cyrff Cenedlaethol, elusennau lleol, asiantaethau a chyrff y llywodraeth

Syniad:
• Rhwydweithio Ar-lein
Mae rhwydweithio ar-lein yn eich galluogi i ganfod pobl yn gyflym, mae’n haws o lawer chwilio drwy gronfa ddata yn hytrach nag ystafell sy’n llawn o bobl. Cyn ymuno â rhwydwaith neu cyn creu rhwydwaith, dylech benderfynu’n union ar yr hyn y mae eich sefydliad am ei gyflawni ganddo. Byddwch yn onest â’ch hun ac ystyriwch faint o amser y gallwch ei neilltuo i’r rhwydwaith. Cofiwch y gall rhwydweithiau ar-lein fod dynnu llawer o’ch sylw – yn arbennig os byddwch yn cymryd rhan mewn sefyllfa sgwrsio. Fodd bynnag, os ydych yn ddisgybledig gellir defnyddio rhwydwaith ar-lein fel offer trefniadol ychwanegol ar gyfer:
- gwneud cysylltiadau newydd
- hyrwyddo eich gwaith
- canfod cleientiaid neu gyflenwyr newydd

Gallai hyn arwain at:
• Nodi ffyrdd mwy effeithlon o weithio
• Cyfathrebiad a dealltwriaeth well o anghenion eich cleientiaid / buddiolwyr e.e. defnyddio arolygon barn ar-lein i gasglu adborth a data cleientiaid.
• Cael mynediad i farchnad ehangach.

Cysylltiadau
• Mae www.bebo.com www.facebook.com yn rhwydwaith cymdeithasol ar-lein amlwg iawn y mae sefydliadau’n ei ddefnyddio i ryngweithio â’u cleientiaid
• Mae www.ning.com a www.socialtrak.com yn eich galluogi i greu eich rhwydwaith ar-lein wedi’i frandio.