Diffiniad o “Gyfryngau cymdeithasol”:
“Mae cyfryngau cymdeithasol yn disgrifio’r offer ar-lein y mae pobl yn eu defnyddio i rannu cynnwys, proffiliau, barn, dealltwriaeth, profiadau, safbwyntiau a chyfryngau eu hunain, gan hwyluso sgyrsiau a rhyngweithio ar-lein rhwng grwpiau o bobl. Mae’r offer hyn yn cynnwys blogiau, byrddau negeseuon, micro flogiau, ‘lifestreams’, dalen-nodau, rhwydweithiau, cymunedau, ‘wikis’ a ‘vlogs’.” (Ffynhonnell:- Brian Solis www.webpronews.com/blogtalk)
Yn anelu at gyrraedd:
• Unigolion a sefydliadau o natur debyg.
Syniad:
• Rhoi cyhoeddusrwydd i weithgaredd eich projectau drwy gynnwys sain neu weledol (ffeil fideo neu sain)
• Llwytho i fyny fideos neu recordiadau sain byrion o weithgareddau a chyflawniadau eich project i wefannau cynnal “cyfryngau cymdeithasol” am ddim
• Hyrwyddo gwerthoedd, cyflawniadau, credoau a gweledigaeth eich sefydliad.
Gallai arwain at:
• Mwy o ymwybyddiaeth o fewn eich cymuned o’r hyn rydych yn ei wneud a sut rydych yn gweithredu
• Cyfathrebu gwell o fewn timau staff
• Sicrhau’r sylw mwyaf i’ch hun drwy ddefnyddio technoleg
• Rhwydweithio gyda sefydliadau o natur debyg
• Cleientiaid neu fuddiolwyr newydd
Cysylltiadau:
Cysylltiadau cyfryngau cymdeithasol dielw a datblygu cymunedol
www.ourmedia.org www.youtube.com